fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae Gweithdy Yokai Creature Collage yn sesiwn greadigol atyniadol sy’n cyflwyno cyfranogwyr i fyd hynod ddiddorol llên gwerin Siapan a chreaduriaid mytholegol sy’n cael eu galw’n yokai.

Mae’r gweithdy’n cael ei arwain gan Axe, sy’n eithriadol o hoff o greaduriaid, ac mae’n dechrau gyda chyflwyniad craff ar wahanol fathau o yokai, eu nodweddion, a’r straeon amdanyn nhw. Yna caiff cyfranogwyr eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg ac i greu eu creadur collage yokai eu hunain.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, megis papur lliw, toriadau o gylchgronau a pinnau ffelt, gall cyfranogwyr ddod â yokai o’u dewis hwy yn fyw. Nid yn unig yw’r gweithdy yn annog mynychwyr i ddysgu am y bodau goruwchnaturiol yma ond hefyd i fynegi eu dehongliadau a’u steil artistig eu hunain drwy eu creadigaethau.
Mae’n gyfle i ddysgu, creu a chysylltu gyda byd hudolus a rhyfedd yr yokai mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.

“Mae myth yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried i fod yn bodoli ar ymylon realiti. Mae’n yn dod i fodolaeth o ganlyniad i ddychymyg ar ei eithaf, ac yn arbennig pan mae’r byd dychmygol yn creu presenoldebau anifeilaidd sy’n symud dros arwynebau’r byd. Wrth symud hwnt ag yma mae’r bywiolion yma yn crwydro pob cornel y byd, a phopeth da a drwg sydd ynddo.”

*Darperir deunyddiau ond mae croeso i chi hefyd ddod â’ch hoff ddarnau eich hun hefyd.
* Mae’r gweithdy 2 awr hwn yn addas ar gyfer pob gallu ac yn apelio at oedolion a phlant dros 15. (Anaddas ar gyfer plant ifanc.)

Archebwch Docynnau

 

Gweld digwyddiadau eraill yn Theatr Volcano yma

24 Mai 2024

Yokai Hatchery gyda Axenia Raulet

13:00pm - 14:30pm