fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

 
Dewch i ddathlu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig Abertawe gyda dawnsio, corau, bandiau lleol a gweithdai, cerddorion stryd, arddangosiadau coginio ac adloniant yng nghanol y ddinas ar 4 Mawrth.

11:00 – 6:30

MMae llawer o gymunedau yn rhan o gymuned amrywiol Abertawe, a bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu Abertawe a’r hyn y mae’n ei golygu i ni i gyd fel unigolion a fel grŵp gyda’n gilydd – p’un ai eich bod wedi cael eich geni yn Abertawe neu beidio; boed chi’n anabl; yn ifanc; neu’n hen; beth bynnag yw eich tueddfryd rhywiol, eich credoau, eich iaith neu’ch gallu.

Mae’r digwyddiad mewn partneriaeth ag AberDewi, a fydd yn cynnwys Twmpath, Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, cyd-ganu Calon Lân, Zamba Tawe a llawer mwy.
 
Peidiwch â cholli’r canlynol:
 

  • Aberdewi- Twmpath, gorymdaith a chystadleuaeth y Ddraig 2017
  • Yn agor mewn ffenest newyddArddangosfa ffotograffiaeth “Beth yw Abertawe?” gyda PCYDDS
  • Yn agor mewn ffenest newyddLlwyfan Canu yn y Stryd Creative Bubble
  • Yn agor mewn ffenest newyddDawnsio Jaipongan, a berfformir gan y Gymuned Indonesaidd
  • Yn agor mewn ffenest newydd”Our Abertawe” – Archifau Gorllewin Morgannwg
  • Cerddoriaeth, Bwyd a Gweithdai gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd
  • Yn agor mewn ffenest newyddGweithdy Rhyngweithiol Dinas Noddfa Abertawe
  • Cefnogaeth gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe
  • Gorymdaith Lusernau, Twmpath ac adloniant gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Darperir bwyd a Henna gan y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig
  • Paentio wynebau, gludwaith ffotograffiaeth a mwy yn Fforwm LGBT Bae Abertawe
  • Cymdeithas Pwyleg Cymru
  • Gweithgareddau difyr gan RNIB Abertawe
  • Gweithdy ar amrywiaeth, gemau a phosau gyda REC Bae Abertawe
  • Paentio Henna gyda Swansea Donates
  • Cymdeithas Ddiwylliannol Thai
  • Amser i Ganu
  • Clymu Saree, Diya Indiaidd (lampau olew), bwyd, gemwaith a mwy gan Gymuned Indiaidd Abertawe
  • Dysgu Oedolion Cymru
  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Herio Hiliaeth
  • Gweithdy ysgrifennu, creu llusernau a mwy gyda Chanolfan Cydweithfa Gymunedol Dsieineaidd Abertawe
Dyddiad
04 MAW 2017
Lleoliad
Swansea City Centre