Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe Agored yn dychwelyd ym mis Ionawr 2023. Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas. Dangosir y gweithiau a ddewiswyd o’r rheini a gyflwynwyd yn ystafell 3 yr oriel.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Mae’r arddangosfa’n ceisio adlewyrchu ymwybyddiaeth feirniadol a diwylliannol gan gynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur.
Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr £200 am waith celf penodol.
Y detholwyr gwadd eleni yw Alan Whitfield, artist gweledol a Swyddog Datblygu Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru, a Dr Zehra Jumabhoy, hanesydd celf, curadur, awdur a Darlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste.