Mae Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi’r dathliad blynyddol hwn o gelf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio yn Abertawe.
Mae’r arddangosfa’n agored i bawb, gan gynnwys artistiaid a gwneuthurwyr â chefndiroedd proffesiynol ac eraill, nad ydynt wedi astudio’r maes yn ffurfiol, sydd wedi profi heriau gweithgarwch creadigol a chael boddhad ohono. Mae’r arddangosfa’n ceisio arddangos detholiad amrywiol o waith ar draws amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys paentiadau, darluniau, cerfluniau, ffotograffiaeth, gwneud printiau a ffilm.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwaith yw dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Tachwedd 2018. Mae rhagor o wybodaeth a manylion ar gael yn www.orielglynnvivian.org.
Rhagarddangosfa: dydd Sadwrn 8 Rhagfyr, 2.30pm – 4.30pm.