fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae gan ABBA Forever enw da fel un o’r grwpiau gorau sy’n dynwared ABBA yn fyw mewn cyngerdd. Ers tro byd, Mae cynulleidfaoedd theatr ym mhedwar ban byd wedi mwynhau’r sioe deyrnged anhygoel hon sy’n dynwared y grŵp a allai fod y grŵp pop gorau a welodd y byd erioed. Trobwynt sylweddol yn eu gyrfa oedd eu chweched taith theatr o Sweden, cartref yr uwch grŵp gwych, ABBA, lle gwerthwyd pob tocyn.

Yn eu sioe fyw anhygoel, mae sain unigryw ABBA yn cael ei dyblygu â manylder anhygoel, gan ddefnyddio band saith aelod â gitarau trydanol ac acwstig, allweddellau a phiano, gitâr bas a drymiau. Mae dwy ferch ABBA ragorol yn cwblhau’r grŵp, gan ychwanegu’r glits a’r glam hanfodol at sioe eithriadol llawn hiwmor ysgafn.

Caiff y geiriau gwych, a ysgrifennwyd gan Benny a Björn, eu canu mewn harmoni gan y chwe pherfformiwr ar y llwyfan. Mae coreograffi deinamig di-ddiwedd, delweddau syfrdanol, dawn gerddorol o’r radd flaenaf a pherfformiad cwbl fyw yn sicrhau bod sioe ABBA Forever yn swyno cynulleidfaoedd pryd bynnag y byddant yn camu i’r llwyfan.

Yn llawn cyffro, gwisgoedd sgleiniog a goleuadau llachar, bydd ABBA Forever yn mynd â chi ar daith yn ôl i’r 70au; mae’r sioe yn siŵr o blesio – o’r gytgan agoriadol i’r gytgan olaf y bydd pawb yn ei chydganu.

Dyddiad
13 ION 2024
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
32.50