fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae Sweeney Entertainments yn falch o gyflwyno

Forever ABBA yw un o sioeau teyrnged rhyngwladol mwyaf y DU, ac mae cynulleidfaoedd theatr o bob rhan o Brydain Fawr a Sweden wedi mwynhau’r sioe adloniant wych hon sy’n dynwared y grŵp a allai fod y grŵp pop gorau a welodd y byd erioed.

Caiff sain unigryw ABBA ei dyblygu â manylder anhygoel, gan ddefnyddio band saith aelod â gitarau trydanol ac acwstig, allweddellau a phiano, gitâr bas a drymiau. Mae dwy ferch ABBA ragorol yn cwblhau’r grŵp, gan ychwanegu’r glits a’r glam hanfodol at sioe eithriadol llawn hiwmor ysgafn.

Caiff y geiriau gwych, a ysgrifennwyd gan Benny a Björn, eu canu mewn harmoni gan yr holl berfformwyr ar y llwyfan. Gyda choreograffi deinamig, perfformiad gweledol syfrdanol, cerddoriaeth o’r radd flaenaf a pherfformiad HOLLOL FYW, mae sioe Forever ABBA yn siŵr o swyno cynulleidfaoedd o’r eiliad y mae’n dechrau hyd at gorws olaf y strafagansa ddwy awr hon.

Dyddiad
11 MAW 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre