fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

“Yn y blynyddoedd hynny… roedd un Nadolig mor debyg i’r llall…”

Yn dilyn cyfnod poblogaidd y llynedd lle gwerthwyd pob tocyn ym mar The Malthouse, mae Lighthouse yn dychwelyd gyda pherfformiad o stori glasurol Nadoligaidd Dylan Thomas fel monolog gan yr actor arobryn, Adrian Metcalfe. Mae’r darn hwn wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd, ni waeth beth yw eu hoedran, ers iddo gael ei gyhoeddi dros hanner canrif yn ôl. Mae Lighthouse yn defnyddio’i steil unigryw i ddod â bywyd newydd i gymeriadau diddorol plentyndod Thomas yn Abertawe.

Pa ffordd well o orffen siopa’r Nadolig na chyda gwydraid ac atgof y gallwch ei gael yn Abertawe’n unig?

“…ffordd feistrolgar o adrodd stori…” South Wales Evening Post

Dyddiad
11-19 RHAG
Lleoliad
Swansea Grand Theatre