Rydym yn croesawu’r band rockabilly Cymraeg, Pwdin Reis, i Dŷ Tawe ar Nos Wener y 19eg o Dachwedd! Mae’r band newydd ryddhau ei albwm cyntaf “Neis fel Pwdin Reis”, a nawr dyma gyfle i glywed y caneuon yn fyw! Mae’r band yn cynnwys Betsan Evans (prif leisydd), Neil Rosser (gitâr), Norman Roberts (bas dwbl), a Rob Gillespie (drymiau).