Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Thomas Søndergård -Arweinydd
Matthew Featherstone -Ffliwt
Daw ochr wladgarol Sibelius i’r amlwg yn ei gerdd symffonig fwyaf anthemig ac yna yn ei bumed symffoni, mawlgan natur a chefn gwlad ei famwlad.
Jean Sibelius
King Christian II Suite, Op 27
Carl Nielsen
Concerto Ffliwt
Jean Sibelius
Finlandia
Symffoni Rhif 5 yn E feddalnod fwyaf
Daw ochr wladgarol Sibelius i’r amlwg yn ei gerdd symffonig fwyaf anthemig ac yna yn ei bumed symffoni, mawlgan natur a chefn gwlad ei famwlad. Mae’r hanner cyntaf yn cydbwyso brwdfrydedd Ffinnaidd â cherddoriaeth ar thema Ddanaidd, gan ddechrau â chyfres o ddarnau ysgafn, achlysurol ar gyfer drama am Frenin Christian II.
Mae Carl Nieslen, cyfansoddwr enwocaf Denmarc yn parhau â’r naws chwareus gyda’i goncerto cryno a phryfoclyd i’r ffliwt, a gaiff ei chwarae gan Matthew Featherstone, prif ffliwtydd CGG y BBC.
Tocynnau: £15 – £20
Consesiynau, tocynnau i fyfyrwyr ac i deuluoedd ar gael.