fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Wedi’i ganslo

The Original Drag Comedy Experience. 12+.

Gyda’r enwog Betty Legs Diamond.

Am y tro cyntaf mewn 25 o flynyddoedd, bydd Funny Girls, y sioe wreiddiol ac eiconig o Blackpool yn mynd ar daith ar draws y DU yn 2020.

Dyma adloniant clasurol a modern gwahanol, a does dim sioe yn y byd sy’n cyfleu adloniant o’r radd flaenaf fel y sioe fyd enwog Funny Girls.

Mae Blackpool gyfystyr ag adloniant, ac mae Funny Girls wedi bod yn boblogaidd yno ers y noson fythgofiadwy gyntaf, 4 Gorffennaf 1994, ac rydym yn dod i theatr sy’n agos atoch chi yn ystod ein taith gyntaf erioed o’r DU. Os hoffech weld sioe sy’n llawn chwerthin, gwisgoedd gwych, perfformiadau cyffrous y gellir cyd-ganu iddynt, clasuron theatrig gwahanol, does dim un arall yn y DU sy’n cystadlu â’r adloniant a ddarperir gan Funny Girls – dyma’r enghraifft berffaith o strafagansa syfrdanol.

Wrth benderfynu ar ba sioe i’w gwylio, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i un sy’n addas i bawb, ond nid os ydych chi’n gwylio Funny Girls. Mae’r rifíw hwn yn cynnwys detholiad o sêr talentog y byd Drag a dawnsiwr gwrywaidd rhywiol. Nid y rheinstonau yn unig sy’n gwneud i’r Funny Girls ddisgleirio. Mae Funny Girls yn cynnwys amrywiaeth eang o berfformiadau dawns cymhleth a pherfformiadau comedi doniol.

Mae’r sioe arobryn, Funny Girls, yn brofiad adloniant unigryw. Cafodd ei gynnwys ar sioe’r Royal Variety nid unwaith, ond ddwywaith. Mae’r sioe wedi bod ar y teledu fwy o weithiau nag y mae’n bosib eu rhestri, ac ar ôl bod ar agor 6 noson yr wythnos dros y 25 o flynyddoedd diwethaf, mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn!

Gadewch fyd realiti a dewch i brofi’r byd anhygoel a grëwyd ar y llwyfan, wrth i’n cast barhau i’ch difyrru mewn sioe nad oes mo’i thebyg, ar daith heb ei hael.

Dyddiad
01 Mai 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre