17 Medi
12pm – 4pm
I lansio dathliadau’r penwythnos agoriadol, mae saith artist wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i baratoi Gorymdaith Agoriadol fawreddog i groesawu pawb yn ôl i’r Glynn Vivian ac i’r adeilad newydd.
Ymunwch â ni am ddiwrnod agored galw heibio arbennig ar gyfer yr orymdaith i greu gwisgoedd, baneri, propiau a cherddoriaeth ac i ddarganfod mwy am ailagoriad ysblennydd yr Oriel.
Peidiwch â cholli’ch cyfle i gymryd rhan a’n helpu i ddathlu ailagoriad Oriel Gelf Glynn Vivian.
Pob oedran, croeso i bawb. Dim angen cadw lle.
Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian ar ei newydd wedd yn ailagor ddydd Sadwrn 15 Hydref 2016 ar ôl trawsnewidiad gwerth miliwn o bunnoedd.
Gyda mwy o fannau oriel a chymdeithasol, a llyfrgell, darlithfa ac ystafell gymunedol newydd, bydd y Glynn Vivian yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar i bobl fwynhau celf ynddo. Mae’r ychwanegiadau newydd cyffrous hefyd yn cynnwys caffi, siop a lifft i’r holl orielau, felly gall mwy o bobl nag erioed o’r blaen fwynhau mynediad i’r gweithiau celf.
Bydd y Glynn Vivian yn agor gyda phenwythnos llawn digwyddiadau am ddim a cherddoriaeth fyw ac mae’n nodi dechrau oriel gelf newydd fywiog ac ysbrydolus i bawb.
Gwefan: www.glynnviviangallery.org
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
Ffôn: 01792 516900
Glynn Vivian