fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy
BLOG | February 27, 2024

Peidiwch â cholli pen-cogyddion enwog, cerddoriaeth fyw, bwyd a diod a llawer o hwyl i'r teulu...

29 Chwefror i 3 Mawrth, bydd Abertawe’n dathlu bwydydd, diodydd a diwylliant gorau Cymru.

Mae’r digwyddiad am ddim, a gallwch grwydro o gwmpas canol y ddinas er mwyn dod o hyd i arddangosiadau coginio gan ben-cogyddion o fri, cerddoriaeth fyw, cystadlaethau i bobl o bob oedran, stondinau bwyd, diod a chrefftau, gweithgareddau i blant a mwy. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe ar y cyd â First Cymru – gallwch osgoi unrhyw ffwdan wrth gyrraedd y digwyddiad drwy fynd ar y bws!

Joio pen-cogyddion enwog a blasau cryf

Dewch i gael eich ysbrydoli gan yr arddangosiadau coginio byw ym Marchnad Abertawe a’r babell ar Portland Street. Galwch heibio i glywed amrywiaeth o ben-gogyddion penigamp yn rhannu eu hargymhellion gorau ar gyfer ail-greu prydau Cymreig enwog.

Bydd y pen-cogydd teledu enwog, Rustie Lee, yn coginio bwyd blasus gydag elfennau Cymreig yn ein pabell arddangos ddydd Sadwrn 2 Mawrth. Gallwch ddod o hyd iddi yn y babell ar Portland Street am 2pm.

Bydd Hywel Griffith, pen-cogydd sydd wedi ennill seren Michelin, yn arddangos ei frwdfrydedd dros fwydydd a chynnyrch o Gymru mewn arddangosiad bwyd byw yn y babell ar Portland Street am 12pm ddydd Sul 3 Mawrth.

Mae Nathan Davies wedi cynrychioli Cymru ar Great British Menu y BBC. Mae ei arddull wrth goginio’n cael ei harwain gan fwydydd tymhorol gyda phwyslais ar flasau cryf. Gallwch wylio arddangosiadau coginio Nathan yn y babell ar Portland Street am 3pm ddydd Sul 3 Mawrth.

Bydd Francessco Mattana, sy’n coginio ar gyfer Our Cooking Journey, yng Ngŵyl Croeso ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth.  Ymunwch ag ef ym Marchnad Abertawe am 1pm ac yn y babell ar Portland Street am 3pm wrth iddo goginio rhywbeth hynod flasus – peidiwch â’i golli!

Bydd Jonathan Woolway (The Shed), John Taylor (The Welsh House), Katie Davies (Britain’s Best Home Cook), Sian Day (My Kitchen Rules), Sian Roberts, Steven Bartram (Bartram’s), Jo Pratt, Iokasti’s Green Kitchen, Matt Waldron (Stackpole Inn/Gordon Ramsay: Uncharted Showdown) a Tom Surgey, a fydd yn rhoi dosbarth meistr mewn paratoi coctels, hefyd yn rhan o’r digwyddiad.

Jo Pratt -credyd llun: Malou Burger

Joio cerddoriaeth fyw ac adloniant

Mae mwy i’r ŵyl Croeso na bwyd a diod yn unig – gwrandewch ar gerddoriaeth wreiddiol o Gymru a fydd yn cael ei pherfformio yn St David’s Place. Mae’r rhestr berfformio yn cynnwys Familia de la Noche, a fydd yn darparu perfformiadau Cymraeg a dwyieithog, Alis Glyn, BLE?, Taran, Spwci, The Phoenix Choir of Wales a mwy!

Nid yw’r gerddoriaeth yn stopio wrth i’r haul fachlud

Bydd Croeso Nightworks yn parhau gyda’r hwyr, gyda cherddoriaeth fyw mewn lleoliadau ar draws canol y ddinas.

Mae’r digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn dechrau ar y nos Iau gyda BBC Now’s St David’s Day Stravaganza yn Neuadd Brangwyn a’r lansiad Cân i Gymru , gyda Morgan Elwy, Mali Hâf, Lily Maya a Sgilti yn Arena Abertawe.

Ewch i The Bunkhouse ar y nos Wener i wylio perfformiadau byw gan Islet, Angel Hotel, The Bad Electric, Eädyth a Kid Mercury, yn dechrau o 6pm.

Ar y nos Sadwrn, ewch draw i Dŷ Tawe ac Elysium. Bydd Tŷ Tawe yn cynnal perfformiadau gan Brigyn, Danielle Lewis a Cwtsh o 6.30pm ac yn Elysium, gallwch wylio Sage Todz a Luke RV & Friends o 8pm.

Hwyl i’r teulu

 

Wrth gerdded o gwmpas yn ystod yr ŵyl Croeso, byddwch yn dod o hyd i ddigonedd o hwyl i’r teulu cyfan.

Bydd sioeau i blant, perfformwyr yn cerdded o gwmpas, cymeriadau a gweithdai crefft.

Bydd yr orymdaith Croeso yn ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl yng nghanol y ddinas ar y dydd Sadwrn.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n cynnal digwyddiad ar thema Dydd Gŵyl Dewi i’r teulu cyfan, bob dydd o 1 Mawrth.

Bydd Canolfan Siopa’r Cwadrant yn cynnal gweithdai creu crefftau Cymreig ar 2 a 3 Mawrth.

Os ydych yn awyddus i wneud mwy, ewch draw i’r Babell Cwtsh lle bydd Mr Urdd, Cymraeg i Blant a Magi Ann yn canu caneuon ac yn chwarae gemau gyda phawb ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul.

Joio llwybrau trysor a chystadlaethau i ennill gwobrau

Cymerwch ran yn Llwybr Croeso i gael cyfle i ennill casgliad o wobrau gwych!

Dewch o hyd i’r 8 llun Cymreig sydd wedi’u cuddio ar draws canol y ddinas i dderbyn bag rhoddion drwy garedigrwydd Original Cottages, sy’n cynnwys mynediad i blentyn AM DDIM i  Trofannol Plantasia, taleb i gael 25% oddi ar bris mynediad i Buzz Trampoline Park, a diod o Radnor Hills a phecyn o pice ar y maen ceuled lemon newydd Brace’s Bakery.

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen llwybr gyda’ch manylion cyswllt, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gwobrau gan gynnwys tocyn teulu i Buzz Trampoline Park, tocyn teulu i Sŵ Trofannol Plantasia a thegan meddal, a 2 docyn i weld gêm pêl-droed Clwb Pêl-droed Abertawe (Clwb Pêl-droed Abertawe yn erbyn QPR, 1 Ebrill).

Diolch i’n noddwyr!

Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru. Diolch i Nathaniel Cars am noddi’r Babell Bwyd a Diod.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, a fydd yn para pedwar diwrnod, gan gynnwys y rhestr lawn o arddangosiadau coginio ac adloniant, ewch i  https://www.croesobaeabertawe.com/events/croeso-3/