fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ydych chi’n chwilio am bethau Nadoligaidd i’w gwneud y gaeaf hwn? Mae gan Wledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe y cyfan sydd ei angen arnoch – dyma’r cyrchfan gorau ar gyfer adloniant i’r teulu y Nadolig hwn!

Mae Parc yr Amgueddfa Abertawe wedi cael ei drawsnewid yn wledd y gaeaf, gan greu awyrgylch hudol ar gyfer tymor yr ŵyl gyda hoff atyniadau pawb i chi eu mwynhau gyda’ch teulu a ffrindiau.

Sglefrio ar yr iâ!

Ni fyddai’n Nadolig yn Abertawe heb ychydig o ddawnsio ar yr iâ. Felly, gwisgwch eich esgidiau sglefrio a rhowch gynnig ar lyn iâ Gwledd y Gaeaf ar y Glannau. Mae’r llyn iâ 15m x 30m dan do, fel y gallwch sglefrio ym mhob tywydd, ac mae wedi’i osod ymysg coed sydd wedi’u haddurno â goleuadau sgleiniog er mwyn creu byd Nadoligaidd sy’n sicr o’ch helpu i fynd i hwyl yr ŵyl.

Mae cymhorthion sglefrio ar gael i blant ifanc a chynhelir sesiynau hamddenol gyda llai o oleuadau, dim cerddoriaeth a chyhoeddiadau uchel bob dydd Mawrth.
Archebwch eich sesiwn nawr!

Archebwch docynnau sglefrio iâ yma

Dywedwch helô… Ho! Ho! Ho! wrth Siôn Corn!

Gallwch ymweld â groto Siôn Corn er mwyn cwrdd â’r dyn ei hun! Dyma’r cyfle perffaith i roi gwybod iddo am yr hyn sydd ar eich rhestr Nadolig, ond well i chi fod yn dda!

Mwynhau’r Nadolig yn y ffair!

Ewch ar yr Ice Jet os ydych chi’n chwilio am gyffro. Yn newydd ar gyfer 2023, mae’r reid Ice Jet yn cynnig profiad unigryw a hynod gyffrous, gan gyrraedd cyflymderau o dros 50mya gydag effeithiau gweledol syfrdanol.

Hefyd, gallwch weld golygfeydd o’r ddinas ar yr Olwyn Fawr. Mae’r olwyn, sy’n 33m o uchder yn cynnig golygfeydd gwych o ganol y ddinas ar gyflymder hamddenol – mae hefyd yn cynnwys cerbyd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ar y llaw arall, gallwch ddod o hyd i ddigonedd o atyniadau eraill i’ch diddanu, mae rhywbeth i bawb!

Ac os oes awydd bwyd arnoch ar ôl yr holl gyffro…

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Pentref Alpaidd lle gallwch ddod o hyd i’ch hoff fwydydd y Nadolig, gan gynnwys: Selsig Almaenig, gwin y gaeaf poeth, neu hyd yn oed malws melys wedi’u tostio. Eisteddwch a mwynhewch awyrgylch y Pentref Alpaidd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

Fe’i cyflwynir i chi gan Sayers Events ac A2H Live, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ar agor tan 2 Ionawr 2024, ewch i’r wefan am fanylion llawn.