fbpx

Dros y blynyddoedd, mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr wedi darparu lleoliadau golygfaol ar gyfer llawer o gynyrchiadau teledu a ffilm, o Two Can Play gyda Peter Sellers ym 1962 i Twin Town ym 1997 yn cynnwys Rhys Ifans, nid yw’r ddinas yn ddieithr i’r sgrîn arian.

Mae Theatr y Grand i’w gweld yn Their Finest 2016, Ysgol yr Esgob Gore yn Submarine 2010, a Hunky Dory 2011, a Gloucester Place yn Set Fire to the Stars o 2014.

Mae Doctor Who a Torchwood, o eiddo’r awdur gwych o Abertawe, Russell T Davies, wedi’u ffilmio o gwmpas y ddinas, gyda Neuadd y Ddinas a Neuadd a Brangwyn yn ffefryn gyda thwristiaid sy’n cefnogi Doctor Who. Os ydych chi wedi gwylio dramâu ar BBC, ITV, S4C neu Netflix dros y blynyddoedd diwethaf, efallai eich bod wedi sylwi ar ambell i gameo o Abertawe…

Dyma grynodeb o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd, efallai y gwelwch chi rywun enwog y tro nesaf y byddwch chi yn y dref?

Neuadd Brangwyn/Neuadd y Ddinas – SA1 4PE

Adeilad trawiadol ar y tu allan a’r tu mewn! Mae’n bosib y gwnewch chi adnabod y tu allan, wedi’i wneud o garreg Portland a chopr, neu baneli nenfwd addurnol y coridor mawreddog. Mae rhai ardaloedd sy’n llai adnabyddus a ddefnyddir ar gyfer ffilmio yn cynnwys siambr y cyngor a’r toiledau Art Deco nad ydynt ar agor i’r cyhoedd! Mae’r siambr wedi’i defnyddio mewn llawer o ddramâu, ac yn fwyaf diweddar, fe’i trowyd yn orsaf heddlu yn yr UD wedi’i gorchuddio ag eira ar gyfer y ffilm sydd eto i’w rhyddhau, Havoc, yn cynnwys Tom Hardy.

 

 

Bae Rhosili a’r Hen Reithordy – SA3 1PL

Lleoliad trawiadol gydag un o’r traethau hiraf ar benrhyn Gŵyr, fel y’i gwelwyd yn Doctor Who a Torchwood, fideo Mumford and Sons ar gyfer Lover of the Light yn cynnwys Idris Elba a nifer o hysbysebion teledu. Mae’r Hen Reithordy yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei osod i bobl ar eu gwyliau pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ffilmio!

 

 

Caffi’r Kardomah – SA1 3DH

Camwch yn ôl mewn amser, lle mae’r byrddau Formica, y paneli pren a’r lloriau finyl yn rhoi ymdeimlad o’r gorffennol i chi. Nid oes angen i ddylunwyr setiau newid llawer wrth ffilmio yn y lleoliad poblogaidd hwn a oedd yn un o hoff gyrchleoedd Dylan Thomas a gweddill criw’r Kardomah yn ôl yn y 1930au.

 

 

Cambrian Place SA1 1RG a Victoria Avenue – SA1 3UR

Mae’r ddau leoliad hyn yn rhoi blas o sut olwg oedd ar Abertawe cyn y rhyfel. Mae Cambrian Place  yn rhes o dai tref â ffasâd Sioraidd ac mae Victoria Terrace  yn deras brics coch hyfryd gyferbyn â’r Brangwyn.

 

 

Pier y Mwmbwls – SA3 4EN

Pwy allai anghofio golygfa angladdol wefreiddiol Fatty yn Twin Town…?

Hysbysebion Teledu