Dydd Gwener 20 Hydref 2023 – Dydd Sul 25 Chwefror 2024
10:00 am – 4:30 pm
Fe’i ganwyd yn Fietnam ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno. Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.
Yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, bydd Trinh Thi yn ail-gyflwyno’r ffilm And They Die a Natural Death (2022), a gafodd glod gan feirniaid, a ddangoswyd yn wreiddiol fel rhan o Documenta 15 yn 2022. Yma, mae wedi cael ei had-drefnu ar gyfer lleoliad oriel. Wrth wneud y gwaith, cafodd Trin Thi ei ysbrydoli gan y nofel hunangofiannol Tale Told in the Year 2000 (2000) gan Bùi Ngọc Tấn, sydd ar hyn o bryd wedi’i sensora yn Fietnam. Gan adlewyrchu golygfa o’r llyfr, mae’r gwaith yn cynnwys system gwynt a wi-fi sydd wedi’i gosod yn ardal Vinh Quang-Tam Da yn Fietnam sy’n sbarduno’r gwaith o osod ffaniau cerfluniol, effeithiau clyweledol, sain, planhigion tsili a’r chwarae hiraethus ar ffliwt sáo ôi, offeryn cerddorol brodorol sy’n cael ei ddefnyddio gan grwpiau yn ardaloedd mynyddig gogledd y wlad. Mewn amser real, mae coedwig ymdrochol llawn cysodion ar waliau’r oriel o’ch cwmpas yn cysylltu’r gofod yn Abertawe â choetir Fietnam. Ochr yn ochr â’r gosodwaith yng Nglyn Vivian.
Aurora Trinity Collective, Ncheta
Dydd Gwener 20 Hydref 2023 – Dydd Sul 21 Ionawr 2024
10:00 am – 4:30 pm
Mae Ncheta yn archwilio themâu cofio, iaith a phwysigrwydd personol a diwylliannol tecstilau. Mae’r gwaith yn un o ganlyniadau prosiect dwy flynedd ar y cyd ag Artes Mundi, Aurora Trinity Collective a’r Trinity Centre ac fe’i cyd-gynhyrchir gan Ogechi Dimeke a Helen Clifford.
Mae Aurora Trinity Collective yn cynnal sesiynau creadigol wythnosol yng Nghaerdydd sy’n lle diogel a gynhelir i fenywod, gan gynnwys menywod traws, pobl anneuaidd a phobl ryngryw. Ochr yn ochr â hyn, mae ganddynt arfer cydweithredol y maent yn creu eu gwaith eu hunain drwyddo. Mae llawer o artistiaid yn y grŵp wedi bod yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, ac o ganlyniad mae eu gwaith yn adlewyrchu ymgysylltiad cyfoethog a gweithredol â chreadigrwydd diwylliannol. Mae gwaith y grŵp yn aml yn ystyried naratifau, traddodiadau a gwybodaeth bersonol.
Mae Ncheta yn ymgorffori tecstilau, ffotograffiaeth a sain amlsianel, mae ei natur amlsynhwyraidd yn adlewyrchu’r ffordd y mae aelodau’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd; er nad yw pawb yn rhannu’r un iaith, maent yn creu lleoedd ar gyfer ei gilydd, gan ddod o hyd i rythmau gwneud gyda’i gilydd.