Mae blwyddyn ysgol newydd yn nesáu ond does dim angen i’r hwyl ddod i ben eto! Gwnewch yn fawr o’r tywydd mwyn a’r nosweithiau golau ym Mae Abertawe, darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar y gweill y mis Medi hwn…
Y DYDDIAD CAU YW 31 AWST! Mae gennych ychydig dros wythnos i gofrestru, felly os ydych chi wedi bod yn ystyried gwneud hynny, ewch amdani! Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd cwrs hyfryd, gwastad a golygfaol lle bydd cefnogaeth wych oddi wrth y gwylwyr – a byddwch yn derbyn medal a chrys-t i gofio’r diwrnod. Cliciwch y botwm isod i gofrestru; welwn ni chi ar y llinell gychwyn!
Os ydych chi’n chwilio am atyniad hanesyddol a golygfaol i ymweld ag ef yn Abertawe’r hydref hwn, efallai y byddwch am ymweld â Chastell Ystumllwynarth. Mae’r castell hwn o’r oesoedd canol, sy’n edrych dros y Mwmbwls, yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif ac mae ganddo hanes cyfoethog o frwydrau, gwarchae ac ymweliadau brenhinol sy’n aros i chi ei ddarganfod.
Yr hyn sy’n digwydd ym mis Medi…
Drysau Agored – dydd Sadwrn 9 Medi, 11am – 5pm
Mae’r castell yn ymuno â dros 200 o leoedd hanesyddol eraill ar draws Cymru a fydd yn agor eu drysau i gynnig mynediad a theithiau tywys am ddim am un diwrnod yn unig.
Diwrnod Hwyl Archaeoleg – dydd Sadwrn 23 Medi, 11am – 4.30pm
Dewch i fod yn archaeolegydd am y diwrnod i ddysgu am hanes drwy weithdai ‘rhoi cynnig arni’, arddangosiadau ac arddangosfeydd gyda’r arbenigwyr o Gower Unearthed.
Teithiau Tywys – bod dydd Mercher a dydd Gwener, 11.15am a 2.15pm.
Ymunwch â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth am daith dywys o ystafelloedd, rhagfuriau, grisiau a chromgelloedd y castell er mwyn cael cipolwg ar fywyd canoloesol a dysgu straeon am y gorffennol.
Byddwch yn heini gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd heddiw! Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar gerdded Nordig. Pilates neu T’ai Chi? Beth am wneud hynny gyda Chwaraeon ac Iechyd y mis Medi ’ma! Mae ganddyn nhw lawer o ffyrdd difyr o gadw’n heini yn y ddinas – cysylltwch heddiw!
Gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau hunanarweiniedig yr haf yng Nghanolfan Dylan Thomas hyd at y penwythnos nesaf; galwch heibio ddydd Mercher, ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 4pm.
Gallwch greu perisgop yn Amgueddfa Abertawe ddydd Iau nesaf rhwng 10am a 4pm. Bydd pobl sy’n dwlu ar saernïaeth, ffasiwn a phethau hen ffasiwn yn mwynhau arddangosfa barhaus Abertawe’r Ugeinfed Ganrif, lle gallwch gamu’n ôl mewn amser.
Dyma’r cyfle olaf hefyd i weld rhai o arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian; gallwch ymweld ag arddangosfa His Dark Materials hyd at ddydd Sul 3 Medi, ac arddangosfa’r haf Ar Anifeiliaid hyd at 24 Medi, a bydd Llunio Cymru: Bell ac Armistead yn arddangos detholiad o waith o ganol y ganrif o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian hyd at ganol mis Tachwedd.
Bydd gan eich llyfrgell leol weithgareddau wythnosol yn rheolaidd i blant ac oedolion o bob oedran; cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol.
Efallai bod gwyliau’r haf yn dod i ben ond mae amser o hyd i chi fwynhau ein hatyniadau awyr agored gwych.
Mae’r pedalos ar llyn cychod Singleton a’r golff gwallgof yn y parc ac yng ngerddi Southend ar agor bob penwythnos hyd at 24 Medi.
Peidiwch â cholli’r digwyddiadau gwych a gynhelir yn Neuadd Brangwyn ym mis Medi! Rydym yn dechrau’r mis gyda Fleetwood Mac by Candlelight ar y 9fed. Gwisgwch eich esgidiau dawnsio ar gyfer ein Dawns De ar y 13eg neu ymunwch â ni am yr ŵyl rym a jin ar yr 16eg – bydd dros 120 o ddewisiadau rym a jin gorau’r farchnad i ddewis ohonynt.
Bydd Huw Williams o Fynachlog Caerfaddon yn perfformio yn Natganiad Organ Amser Cinio am ddim mis Medi ar y 19eg. Yn dilyn Dawns Maggie’s lwyddiannus y llynedd, mae’r noson anhygoel o adloniant byw, cinio gyda’r nos a llawer mwy yn dychwelyd ar yr 22ain ar gyfer Dawns Mardi Gras Maggie’s.
Ar y 23ain, gallwch ddod o hyd i fargeinion gwych yn sêl cilo dillad ddoe Worth the Weight, lle gallwch brynu dillad ddoe. Os ydych chi’n cynllunio ar gyfer eich diwrnod mawr, bydd digonedd o syniadau ar gael yn Ffair Briodas Genedlaethol Cymru ar y 24ain, gydag amrywiaeth o gyflenwyr priodas, arbenigwyr ac arddangosiadau.
Daw’r mis i ben ar uchafbwynt ar y 30ain gyda noson o ddawnsio a chanu wrth i The Old Time Sailors berfformio hen ganeuon sianti a gwerin.