Yr wythnos hon, mae Abertawe wedi bod yn llwyfan ar gyfer GALWAD, drama aml-lwyfan sy’n cael ei dangos ar sianelau digidol a darlledu.
Gan gyfuno adrodd straeon confensiynol â thechnoleg newydd, mae GALWAD: STORI O’N DYFODOL, yn caniatáu i gynulleidfaoedd ddilyn y stori mewn amser go iawn ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein eraill.
Mae elfen Abertawe o’r stori yn datblygu mewn tri lleoliad cyfarwydd. Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Casgliad Cymru, partneriaeth wedi’i harwain gan National Theatre Wales, i hyrwyddo’r cynhyrchiad.
Mae tîm GALWAD yn cynnwys unigolion dawnus o Abertawe, fel Aisha-May Hunte, Matthew Aubrey, Anthony Matsena a Marc Rees.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies
Dechreuodd stori GALWAD gyda storm drydanol dros Fae Abertawe. Adroddir y stori mewn amser go iawn ar www.galwad.cymru ac ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â @GALWAD22.
Nos Sul (2 Hydref) gallwch wylio’r stori gyfan ar Sky Arts rhwng 4.30pm a 9pm.
Comisiynwyd GALWAD gan Cymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK.