fbpx

Anne-Marie yn cyhoeddi sioe awyr agored enfawr ym Mharc Singleton Abertawe ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf 2022!

Mae’r gantores dalentog sydd wedi gwerthu miliynau o albymau, Anne-Marie, wedi cyhoeddi sioe awyr agored enfawr ym Mharc Singleton Abertawe’r haf hwn. Bydd yn perfformio ar y llwyfan ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf 2022. Ers iddi ymddangos yn 2016, mae Anne-Marie wedi dod yn un o sêr byd pop mwyaf llwyddiannus y byd. Mae ei cherddoriaeth wedi’i ffrydio dros 5 biliwn o weithiau, gwerthodd ei halbwm gyntaf filiwn o gopïau  ac mae 5 o’i senglau wedi cyrraedd y 10 uchaf yn siartiau senglau’r DU. Y brif act gynorthwyol ar gyfer y sioe hon fydd Mimi Webb, sydd wedi’i chanmol gan Radio 1 fel un o sêr 2022 wrth iddi greu cyffro ar draws y byd gyda’i EP Seven Shades of Heartbreak ac ar ôl iddi werthu pob tocyn ar gyfer ei thaith gyntaf o’r DU yn syth. Mae Mimi Webb, sydd eisoes yn seren enfawr ar TikTok, hefyd yn gallu brolio mai hi yw’r artist benywaidd cyntaf yn y DU, ers Dua Lipa yn 2017, i gael dwy sengl yn y 15 uchaf yn siartiau’r DU cyn iddi ryddhau ei halbwm gyntaf.Ym mis Ionawr 2021, ymddangosodd Anne-Marie am y tro cyntaf fel yr hyfforddwr diweddaraf ar gyfer degfed gyfres The Voice UK, gan gymryd lle Meghan Trainor. Enillodd aelod o’i thîm, Craig Eddie, gyfres 10, a dyma oedd ei llwyddiant cyntaf yn ei chyfres gyntaf fel hyfforddwr.

Ym mis Gorffennaf 2021, rhyddhaodd Anne-Marie ei hail albwm, Therapy, sy’n llawn caneuon poblogaidd gan gynnwys ‘Our Song’ gyda Niall Horan, ‘Kiss My (Uh Oh)’ gyda Little Mix a ‘Don’t Play’ gan KSI a Digital Farm Animals a chafodd ei henwebu ar gyfer gwobr BRIT 2022. Cyrhaeddodd yr albwm rif 2 yn siartiau’r DU a derbyniodd ganmoliaeth fawr. Dywedodd NME, ‘Dyma gerddoriaeth bop fywiog, sy’n sefyll allan. Mae’n gyfuniad amrywiol o gerddoriaeth bop sy’n codi’r galon ac yn cyfleu personoliaeth y gantores o Essex i’r dim’. Therapy yw ei hail albwm – gwerthodd ei halbwm gyntaf, Speak Your Mind,  filiynau o gopïau yn 2018, a hon oedd albwm gyntaf mwyaf poblogaidd y DU y flwyddyn honno a oedd yn cynnwys dwy gân boblogaidd iawn ar draws y byd – ‘2002’ a ‘FRIENDS’ gan Marshmello.

Yn agor y sioe fydd y seren newydd Gracey, sydd wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr BRIT. Mae ei cherddoriaeth eisoes wedi’i ffrydio 140 miliwn o weithiau ac mae un o’i chaneuon wedi cyrraedd y 10 sengl uchaf yn y siartiau.

Mae’r sioe, a hyrwyddir gan Orchard Live arobryn, yn cwblhau cyfres o gyngherddau haf gwych ym Mharc Singleton, gan gynnwys Gerry Cinnamon ar 4 Mehefin, a phenwythnos penigamp ar ddiwedd mis Gorffennaf, gyda Nile Rogers a CHIC ar 29 Gorffennaf a Paul Weller yn perfformio ddydd Sul 31 Gorffennaf.

Meddai Pablo Janczur, Cyfarwyddwr Cerddorol Orchard Live, “Mae cyngerdd Anne-Marieyn cwblhau penwythnos gwych o gerddoriaeth yn y parc ar ddiwedd mis Gorffennaf. Rydym yn edrych ymlaen at gael diddanwr o’r fath yn ein dinas, bydd yn sioe wych ac yn barti a hanner”.

TOCYNNAU AR WERTH DDYDD GWENER 11 CHWEFROR AM 10AM – Myw o wybodaeth