fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae mis Mawrth yn Fis Hanes Menywod, ac rydym wedi llunio rhestr o lyfrau y mae’n rhaid i chi eu darllen i ddathlu menywod a’ch ysbrydoli.

Mae ein detholiad yn cynnwys llyfrau ffuglen a ffeithiol, ac yn cynnwys menywod o gefndiroedd gwahanol, safbwyntiau unigryw a straeon cyffrous iawn. Cewch hyd i straeon lleol o Abertawe yn ogystal â’r rheini o bob rhan o’r DU a thu hwnt.

Felly dathlwch y menywod cryf, call a herfeiddiol yn eich bywyd a chydiwch yn un o’r llyfrau gwych hyn!

Joan of Arc gan Helen Castor

Hanes un o ferched mwyaf rhyfeddol yr Oesoedd Canol, fel nad ydych erioed wedi’i gweld hi o’r blaen.

Mae’r hanesydd clodfawr, Helen Castor, yn mynd â ni i ganol yr adeg derfysglyd a gwaedlyd honno yn y 15eg ganrif i ddysgu am fywyd byr ond rhyfeddol y ferch neilltuol hon, a daw ࣙâ Siân d’Arc a’i byd yn fyw i ni.

Clicio a Chasglu

 

I am Malala gan Yousafzi Malala

Dyma’r ferch a ddadleuodd dros addysg ac a saethwyd gan y Taliban.

Mae ‘I am Malala’ yn adrodd stori ysbrydoledig merch ysgol a oedd yn benderfynol o beidio â chael ei brawychu gan eithafwyr, ac a ddangosodd ddewrder aruthrol wrth wynebu’r Taliban. Mae Malala’n siarad am ei hymgyrch barhaus i bob merch gael hawl i addysg, gan daflu goleuni ar fywydau’r plant hynny na allant fynd i’r ysgol.

Clicio a Chasglu

 

Jill gan Amy Dillwyn

Mae Jill yn arwres anghonfensiynol – menyw sy’n cuddwisgo fel morwyn ac yn rhedeg i ffwrdd i Lundain. Caiff bywyd uwchben ac islaw’r grisiau ei bortreadu gyda ffraethineb amharchus yn y stori gyflym hon. Fodd bynnag, yr hyn sy’n ganolog i’r nofel yw cariad Jill at ei meistres.

Clicio a Chasglu

 

Pijin gan Alys Conran

Mae Pijin yn stori drasig, ddwys a hynod ddoniol ar adegau am gyfeillgarwch yn ystod plentyndod a sut mae’n cael ei ddifetha – stori o euogrwydd, distawrwydd a cholli diniweidrwydd, a stori am y math o gariad a all oresgyn y cyfan.

Clicio a Chasglu

 

And Suddenly You Find Yourself gan Natalie Ann Holborow

Mae’r cerddi yn y casgliad hwn yn archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol: y mytholegol yn cwrdd â’r modern, straeon tylwyth teg, teuluoedd a dial yn gwrthdaro a chymysgedd hiraethus o gariad, colled, chwant, gofid a dial nad yw’n ofni bwrw’r darllenydd oddi ar ei echel.

Mae Natalie Ann Holborow, o Abertawe, yn awdures barddoniaeth a ffuglen. Yn 2015, enillodd Wobr Terry Hetherington a Gwobr Robin Reeves.

Clicio a Chasglu

 

Amy Dillwyn gan David Painting

Ganed Amy Dillwyn (1845-1935) i un o deuluoedd amlycaf Abertawe. Roedd hi’n nofelydd o Gymru a oedd yn mynd i’r afael â materion cymhleth ynghylch dosbarthiadau yn ei gwaith. Yn dilyn marwolaethau ei brawd ym 1890 a’i thad ym 1892, daeth busnes ei thad, a oedd yn fethiant, i’w meddiant hi, a chan ddefnyddio dull rheoli brwd, llwyddodd Amy i drawsnewid y busnes yn un a oedd yn ffynnu.

Yn y bywgraffiad hwn, sy’n seiliedig yn bennaf ar ddyddiaduron Dillwyn, mae David Painting yn taflu goleuni ar y fenyw ragorol hon, yr oedd ganddi ysbryd a phersonoliaeth eithriadol, ac yn dangos, er ei bod hi’n adnabyddus ym Mhrydain fel menyw ddiwydiannol a nofelydd, ei bod hi hefyd yn gynigiwr brwd dros gyfiawnder cymdeithasol.

Clicio a Chasglu

 

Firebird gan Iris Gower

Roedd Iris Gower yn nofelydd lleol a oedd yn enwog am ei nofelau rhamant hanesyddol niferus, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli yn Abertawe a Gŵyr.

Firebird yw’r nofel gyntaf yn ei chyfres sydd wedi’i lleoli yng nghrochendai llestri clai de Cymru, lle mae merch 14 oed yn dod yn berchennog Cwmni Crochenwaith Tawe ac yn ceisio cadw’r busnes i fynd mewn amgylchiadau anodd. Mae ei byd yn lle dryslyd oherwydd y ddau ddyn yn ei bywyd.

Clicio a Chasglu

 

Girl, Woman, Other gan Bernadine Evaristo

Mae ‘Girl, Woman, Other’ yn dilyn bywydau a brwydrau 12 cymeriad gwahanol iawn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, yn ddu ac yn Brydeinig, ac maent yn adrodd straeon eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cariadon ar draws y wlad ac ar hyd y blynyddoedd.

Clicio a Chasglu

 

A Long Petal of the Sea gan Isabel Allende

Stori epig sy’n dechrau ym 1939 ac sy’n para am ddegawdau…

Ar ôl dianc o Ewrop yng nghanol y rhyfel, mae alltudion o Sbaen yn ceisio lloches yn Chile, gan fynd ar long sy’n hwylio i’r wlad sy’n addo ‘môr, gwin ac eira’ dros y môr.

Yna, maent yn canfod eu hunain yng nghanol gwe gyfoethog o gymeriadau sy’n dod ynghyd mewn cariad a thrasiedi dros bedair cenhedlaeth, a’u tynged yw bod yn dyst i’r frwydr rhwng rhyddid a gormes sy’n digwydd ar draws y byd.

Mae A Long Petal of the Sea, sy’n ddarn o waith ffuglen hanesyddol feistrolgar am obaith, alltudiaeth a pherthyn, yn dangos gwaith Isabel Allende ar ei orau.

Clicio a Chasglu

 

The Hate U Give gan Angie Thomas

Nofel bwerus a dewr i oedolion ifanc am sut beth yw rhagfarn yn yr 21ain ganrif.

Mae Starr, sy’n 16 oed, yn byw mewn dau fyd: y gymdogaeth dlawd lle cafodd ei geni a’i magu a’i hysgol uwchradd grand yn y maestrefi. Mae’r cydbwysedd aflonydd rhyngddynt yn cael ei chwalu pan fydd Starr yn dyst, yr unig dyst, i ddigwyddiad angheuol pan gaiff ei ffrind gorau di-arf, Khalil, ei saethu gan heddwas. Gallai’r hyn y mae Starr yn ei ddweud yn awr ddinistrio’i chymuned. Gallai hefyd arwain ati’n cael ei lladd.

Wedi’i hysbrydoli gan y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, dyma nofel bwerus a chyffrous i oedolion ifanc am frwydr un ferch dros  cyfiawnder.

Clicio a Chasglu

 

Dyma ddeg yn unig o’r llyfrau rhagorol a ysgrifennwyd gan fenywod neu am gymeriadau benywaidd. Yn naturiol, mae nifer eraill o lyfrau sy’n haeddu cael eu cynnwys, ond bu’n rhaid i ni eu gadael ar y silff.

Pa awduron benywaidd fyddai’n ymddangos ar eich rhestr ddarllen chi?

Pa lyfrau sy’n cynnwys cymeriadau benywaidd?

Rhowch wybod i ni ar Twitter @JoioAbertawe.