fbpx
BLOG | January 29, 2021

Rydym yn paratoi ar gyfer Dydd Gŵyl Sain Folant gwahanol iawn eleni - ydych chi'n edrych ymlaen at drefnu pryd o fwyd rhamantus yng ngolau cannwyll #gartref a mwynhau potel o siampên?

Beth am fynd gam ymhellach a threfnu syrpreis i’ch partner yn y dyfodol fel taith ramantus i edrych ymlaen ati unwaith bydd y cyfyngiadau wedi’u llacio – gallwch fwynhau seibiant gyda’ch gilydd yn eich hoff le!

 

 

Rhowch docyn rhodd y Dydd Gŵyl Sain Folant hwn a gallwch freuddwydio am fythynnod clud, ystafelloedd gwely mewn gwestai crand sy’n wynebu’r môr, neu beth am glampio o dan y sêr wrth i chi fwynhau’ch pwdin! A dweud y gwir, gallwn eich helpu gyda’ch pwdin – beth am frownis Gower Cottage neu bice ar y maen gyda hufen wisgi – blasus!

 

 

 

Mae gennym syniadau dydd Gŵyl Sain Folant hyfryd i godi’ch calonnau yn ystod y cyfnod clo – beth am guddio’r tocyn rhodd o dan llwy Gymreig draddodiadol wedi’i cherfio’n arbennig i ddangos eich cariad?  Neu, os yw eich anwylyn yn dwlu ar chwaraeon adrenalin, rhowch anrheg fythgofiadwy neu brofiad i’w gofio, fel arfordiro, padlfyrddio, caiacio neu ddringo creigiau.

Cymerwch gip ar ein tudalen Syniadau am Anrhegion a rhannwch eich cariad ar 14 Chwefror drwy mwynhau pryd o fwyd blasus gyda’ch gilydd ym Mae Abertawe yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Wedi’r cwbl, mae atgofion yn para’n hirach na siocledi!

 

 

 

 

 

 

Oes angen ysbrydoliaeth arnoch o hyd? Wel, mae gennym syniadau newydd ar gyfer Dydd Gŵyl Sain Folant isod i’ch helpu i benderfynu:

 
 
Brownis Sain Folant Gower Cottage – rhowch danysgrifiad 3 mis i rywun! 3 llond blwch o deisennau siocled hynod flasus!
Gweld mwy

Mae llwyau caru Cymreig yn anrhegion delfrydol ar gyfer Dydd Gŵyl Sain Folant – mewn blwch rhodd gyda cherdyn stori sy’n adrodd hanes eu cariad dros y blynyddoedd.
Gweld mwy

Cludfwyd Sain Folant o westy’r King Arthur! (I’w ddanfon yn lleol neu ei gasglu) Beth am drefnu pryd o fwyd rhamantus i ddau ar gyfer Dydd Gŵyl Sain Folant?
Gweld mwy

Mae Gower Gin Company newydd ryddhau jin arbennig a chyfyngedig, sef ‘Rhamanta’, sy’n addas iawn ar gyfer yr achlysur. Jin coch unigryw wedi’i ffrwytho â chyrans cochion.
Gweld mwy

Mae Go Ape ym Mharc Margam yn eich gwahodd i roi profiad, nid pethau, yn rhodd eleni, – beth am roi taleb anrheg ar gyfer Go Ape fel y gallwch fynd ar antur yn y coed gyda’ch gilydd yn y dyfodol?
Gweld mwy

Mae RipnRock yn cynnig talebau anrheg ‘Antur i Ddau’ i chi eu mwynhau yn y dyfodol – rhowch anrheg i gynhyrfu rhywun y Dydd Gŵyl Sain Folant hwn.
Gweld mwy

Mae North Wind Studio & Gallery yn rhoi cyfle i chi rannu eich cariad at arfordir Gŵyr â’r person arbennig yn eich bywyd – a thrysori’r profiad am byth.
Gweld mwy