fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae ddigonedd o olygfeydd godidog o Fae Abertawe i’w mwynhau ar y llwybr cerdded hamddenol hwn ar hyd y prom.

Gan ddechrau yng ngerddi Clun a mynd tuag at oleudy’r Mwmbwls, byddwn yn darganfod rhai o’r straeon y tu ôl i’n tirnodau mwyaf poblogaidd, fel Castell Ystumllwynarth, a lleoedd cudd fel hen breswylfa Amy Dillwyn ar y daith gerdded 5km hon.

Llwybr

Dechreuwch eich taith gerdded (neu feicio!) yng Ngerddi Clun – efallai y byddwch am ddarganfod y parc hudol hwn cyn dechrau!

• Cerddwch tuag at dafarn The Woodman a chroeswch y ffordd tuag at Lido Blackpill i weld yr ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig (ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig Blackpill).

• Trowch i’r dde ar y prom ac ewch tuag at y Mwmbwls, gan basio’r plac glas sy’n nodi Amy Dilwyn ger tafarn y West Cross Inn.

• Cerddwch ymlaen, ychydig heibio Ripples byddwch yn gweld croesfan i gerddwyr.

• Croeswch y ffordd a cherddwch tua’r un cyfeiriad nes eich bod yn cyrraedd mynedfa Coed Castell Ystumllwynarth.

• Dilynwch y llwybr drwy’r goedwig at Gastell Ystumllwynarth.

• Cerddwch allan o dir y castell ac ar hyd Castle Avenue cyn troi i’r dde ar Newton Road a cherdded yn ôl tuag at y prom.

• Croeswch y ffordd a’r maes parcio cyfagos cyn ailymuno â’ch taith gerdded ar hyd llwybr trên y Mwmbwls, rheilffordd gyntaf y byd.

• Cerddwch i gyfeiriad Pier y Mwmbwls.

• Pan fyddwch yn cyrraedd, camwch ar y pier (hanner ffordd ), cartref Bad Achub y Mwmbwls.

• Dychwelwch at y llwybr – y tu allan i Beaches and Cream byddwch yn gallu gweld Goleudy’r Mwmbwls yn glir a gallwch hefyd weld y plac glas sy’n nodi Jessica Ace a Margaret Wright, (menywod Pen y Mwmbwls), sef diwedd eich taith.

Map

Audio Guide