fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | December 03, 2019

Ynghyd â gwesteion arbennig: YOU ME AT SIX, FEEDER ac YONAKA

Mae Catfish and the Bottlemen wedi cyhoeddi eu sioe fwyaf yng Nghymru hyd yma, eu hunig sioe yng Nghymru yn 2020, ym Mharc Singleton Abertawe. Mae hyn yn dilyn eu sioe gwych y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer yng Nghastell Caerdydd ac Arena Motorpoint yn ystod y 18 mis diwethaf.

Bydd y band roc/pync-pop 4 aelod dawnus o Surrey sef You Me At Six yn chwarae traciau o’i halbwm poblogaidd a gyrhaeddodd rhif 1 sef ‘Cavalier Youth’ a phum albwm aur ardystiedig arall gan gynnwys  ‘Night People’ o 2017 a ‘VI’ o 2018. Bydd y rocwyr indi o Gymru, Feeder, a fydd yn dod â’u hanthemau y gellir cyd-ganu iddynt i Barc Singleton a’r band roc-pop o Brighton, YONAKA yn cwblhau’r rhestr o berfformwyr.

Tocynnau

Bydd tocynnau ar werth i bawb ddydd Gwener 6 Rhagfyr am 10am o wefannau alttickets.com a ticketmaster.co.uk a’r gost fydd £35.

Does dim cartref sefydlog gan y gan y rocwyr amgen, Catfish and the Bottlemen, sy’n hanu o arfordir gogledd Cymru, am eu bod wedi bod ar daith yn gyson ers 2014. Mae’r siwrnai wedi parhau’n ddi-dor yn 2019 am eu bod wedi cwblhau cynifer â phum taith o’r Unol Daleithiau yn ystod y flwyddyn, ynghyd â thair taith o Awstralia a thir mawr Ewrop a 3 taith arena yn y DU. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer 2020, gyda chyhoeddiadau am wyliau’r haf yn dechrau ymddangos.  Rhyddhawyd eu trydydd albwm clodfawr, The Balance, ar ddechrau haf 2019 ac mae wedi ychwanegu llond gwlad o ddeunydd cyffrous newydd at eu set fyw hynod gyffrous. Enillodd albwm cyntaf y band, The Balcony, statws platinwm yn y DU a dilynwyd hwn yn 2016 gan ail albwm sef The Ride a gyflwynodd y ffefrynnau byw 7 a Soundcheck. Ffrydiwyd caneuon y band 1 biliwn o weithiau hyd yn hyn. Canolbwynt dynamig a magnetig Catfish and the Bottlemen yw eu dyn blaen, Van McCann, ac mae’n un rheswm y cânt eu disgrifio fel un o’r bandiau byw gorau sydd wedi dod o’r DU y ganrif hon. Nid oes unrhyw fand roc amgen arall o’r DU sydd wedi dod i’r brig yn ystod y degawd hwn wedi cael cymaint o glod a llwyddiant rhyngwladol.

Dyma aelodau Catfish and the Bottlemen: Van McCann (lleisau, gitarau), Johnny Bond (gitarau), Robert ‘Bob’ Hall (drymiau) a Benji Blakeway (gitâr fas).

Dilynwch y dudalen digwyddiadau i gael y diweddaraf ar gyngherddau