fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 21, 2019

Here are our Top 5 to do this half term (avoiding those pesky ghouls!)..

1. Nofio, Dringo, Chwarae

Ewch i’r LC, parc dŵr dan do mwyaf Cymru! Mwynhewch amrywiaeth gyffrous o byllau, reidiau a sleidiau, gan gynnwys y Masterblaster enwog, sef sleid droellog sy’n saethu pobl ar gylch rwber i fyny ar ffrwd dŵr ac yna’n eu gadael i rym disgyrchiant!

Yna, rhowch gynnig ar ein wal ddringo 30 troedfedd, gyda thros 20 o lwybrau gwahanol ar gyfer pob gallu, neu ewch i’r ardal chwarae ryngweithiol lle ceir tŵr chwarae 4 llawr â drysfa ddyfrllyd o sleidiau, pontydd a phyllau peli. Pris: Pris tocyn teulu ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn yw £25.

 

2. Ewch i Blantasia…

ar gyfer antur drofannol! Gallwch weld Crwban yr Aifft, Swricatiaid, Peithoniaid Rhwydog, Crocodeil y Caiman, piranaod a llawer o bryfetach…! Pris: £7 i oedolion, £5 i gonsesiynau a £21 i deuluoedd.

3. Cymerwch gam yn ôl mewn amser…

ac ewch i ymweld â’r amgueddfeydd hynaf a diweddaraf yng Nghymru – Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau! Mae Amgueddfa Abertawe’n gartref i drysorau o Abertawe, ledled Cymru a gweddill y byd. Mae’r casgliadau’n cynnwys mymi Eifftaidd, rhai o ffotograffau hynaf y byd ac eitemau o gyfnod y Rhyfel yn Abertawe, mewn adeilad trawiadol Edwardaidd â cholonadau.

Mewn cyferbyniad, ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am dreftadaeth forol a diwydiannol Cymru dros y 300 o flynyddoedd diwethaf trwy dechnoleg ryngweithiol â channoedd o arddangosfeydd blaengar i’w harchwilio.

Mae mynediad i’r ddwy amgueddfa am ddim.

4. Mwynhewch brofiad diwylliannol yn Abertawe

Ewch i Ganolfan Dylan Thomas i weld yr arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ a darganfyddwch ragor am y bardd enwog. Ymunwch â Digwyddiadau pen-blwydd Dylan ym mis Hydref sy’n cynnwys ysgrifennu creadigol, creu gomic bach, pypedau, gemau, cornel ddarllen a dillad gwisgo i fyny wedi’u hysbrydoli gan Dylan Thomas. Mynediad am ddim.

5. Darganfyddwch Oriel Gelf Glynn Vivian

sy’n cyflwyno arddangosfeydd celf hanesyddol, fodern a chyfoes, sgyrsiau, darlithoedd a chynadleddau, cerddoriaeth fyw, perfformiadau a digwyddiadau yng nghalon ardal artistig brysur Abertawe. Mynediad am ddim.

Felly, fel y gallwch chi weld, mae gennym nifer o weithgareddau a digwyddiadau i ddiddanu eich plant yn ystod yr hanner tymor hwn, a’r unig beth sydd angen i chi ei wneud nawr yw dod o hyd i’r lle perffaith i aros. Ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, mae gennym lochesi clud yn y cefn gwlad, lletyau ar lan y môr, gwesteiau yn y ddinas a fflatiau moethus… rydym yn siŵr y gallwch ddod o hyd i rywle sy’n ateb pob dymuniad i chi a’ch teulu!