fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 11, 2019

Os ydych chi erioed wedi bod i benrhyn Gŵyr, mae’n siŵr eich bod eisoes wedi cwympo mewn cariad â’r lle. Gyda thraethau arobryn, cefn gwlad gogoneddus a golygfeydd godidog, does dim byd i chi beidio ei hoffi!

Os nad ydych chi wedi ymweld â phenrhyn Gŵyr o’r blaen, gallwn warantu y bydd y lluniau hyn yn eich annog i drefnu ymweliad yn fuan iawn…

1. Bae Rhosili

Ni allwch ddod o hyd i olygfeydd sy’n fwy syfrdanol na’r rhain. Does dim syndod bod Bae Rhosili yn cael ei ystyried yn un o 4 o draethau gorau’r DU am y bedwaredd flwyddyn yn olynol (drwy bleidlais gan ddefnyddwyr TripAdvisor). Traeth arobryn â golygfeydd arobryn arbennig.

2. Pen Pyrod

Wedi’i enwi gan Oresgynwyr Llychlynnaidd a oedd yn meddwl ei fod yn debyg i ddraig neu fwydyn, mae gan Ben Pyrod siâp fel sarff anferth ac mae’n dangos pen gorllewinol penrhyn Gŵyr. Un o’r cyfleoedd gorau yn y byd i weld yr haul yn machlud? Ydy, yn ein barn ni….

3. Bae’r Tri Chlogwyn

Mae’r awyrlun hwn yn dangos Bae’r Tri Chlogwyn a’i draethlin ysblennydd o dwyni tywod, morfeydd heli a chlogwyni calchfaen. Mae’r llun hwn yn fendigedig, ac rydym yn siŵr eich bod chi’n cytuno!

4. Maen Ceti (Carreg Arthur)

Mae’r bedd neolithig hwn sy’n dyddio’n ôl i 2500CC wedi’i leoli ar dir uchel nodedig Comin Cefn Bryn sy’n cynnig golygfeydd eang! Mae’r llun hwn yn eithaf nodedig hefyd!

5. Bae Caswell

Rydym yn gwybod y bydd yr olygfa hon yn gwneud i lawer ohonoch fyfyrio am eich atgofion plentyndod hapus ym mhenrhyn Gŵyr. Dyma un o’n hoff draethau, ac mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd.

Mae’n siŵr eich bod wedi cwympo mewn cariad â phenrhyn Gŵyr erbyn hyn, ond os hoffech weld rhagor o luniau prydferth o’n hardal, dilynwch ni ar Instagram @visitswanseabay