fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Breuddwyd Canol Haf


C 18th July 2018

 
Yn gynnar gyda’r nos tua diwedd mis Gorffennaf.

Roedd yr haul yn tywynnu dros Fae Abertawe gan ddangos bod y gaeaf ymhell i ffwrdd.

Roedd llethrau gwelltog y tir yn disgleirio fel lliw emrallt, fel petaent yn gwenu ar wedd dywynnol y môr. Safai Castell Ystumllwynarth yn urddasol ar ben bryn gan goroni pentref y Mwmbwls.

Dyma’r llwyfan wedi’i osod yng nghanol ein hanes, felly byddwch yn barod i wrando ar fath gwahanol o stori – un sy’n llawn hud ac anhrefn, canu a dawnsio, ffantasi a phethau rhyfeddol.

Paninis blasus newydd eu pobi, chwerthin tincial ac ysgafn, gan eistedd mewn cadair neu orwedd ar flanced, hud Shakespeare, y sioe theatr glasurol.

Mae’r rhai hen ac ifanc yn mwynhau’r hen stori glasurol!

Wedi’i gosod ar y noson beryglus honno pan fydd tylwyth teg yn chwarae castiau ac nid oes unrhyw beth fel y mae’n ymddangos, caiff pedwar carwr ifanc, diarwybod eu dal yn y dryswch hudol ac, yn fuan, nid oes unrhyw un yn ddiogel yn y coed cyfareddol hynny y tu allan i Athens.

Bydd trasiedi, comedi, cerddoriaeth a rhamant yn dod ynghyd yn y sioe hafaidd hon sydd â thrwydded llawn ac sy’n berffaith i’r teulu cyfan, gydag arlwyaeth gan y noddwyr, Panini’s.
Tocynnau gostyngedig ar gael nawr.