fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Byddwch yn feistr y Proms


C 29th August 2017

Mwynhewch noson wych o gerddoriaeth ag awyrgylch wirioneddol Brydeinig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cymreig y BBC yn Proms yn y Parc y BBC, sydd yn dychwelyd i Abertawe ar ôl blwyddyn o saib (pan deithiodd i Fae Colwyn). Cewch wrando ar westeion arbennig – y gantores soul Mica Paris (a fydd yn perfformio clasuron Ella Fitzgerald), y soprano o Gymru, Rebecca Trehearn, a’r sacsoffonydd Jess Gilam a gyrrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y BBC yn 2016.

Yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad arall, nid ydych yn gallu dod gyda’ch tocyn, eich ffôn, eich pwrs a’ch allweddi’n unig (wel, gallwch, ond dyw e ddim cymaint o hwyl!). Mae angen paratoi llawer mwy am y Proms a, nawr, tair wythnos yn unig sydd i fynd, felly roeddwn yn meddwl y gallwn ni eich helpu chi gyda’ch rhestr wirio Proms yn y Parc y BBC i sicrhau eich bod chi’n gwybod sut i fod yn feistr y proms!

Baneri

Mae’r Proms a baneri yn mynd gyda’i gilydd fel cocos a bara lawr. Mae un heb y llall yn gweithio’n iawn, ond nid yw’n taro deuddeg. Baneri Jac yr Undeb, y Ddraig Goch – i fod yn glir, nid ydym yn sôn am y polion baneri enfawr fel y rhai yng Ngŵyl Glastonbury – mwy y rheiny a afaelir ynddynt â’r llaw y gallwch chi eu chwifio’n llon heb atal unrhyw un rhag gallu gweld.

Y picnic

Bydd bwyd a diod ar gael i’w prynu ar y safle, ond gallwch hefyd ddod â’ch gwledd eich hunain. Chwiliwch am eich bagiau oer, rhowch y Prosecco ar iâ, paciwch y flanced bicnic, dewch o hyd i’r platiau papur a mwynhewch eich picnic Proms eich hunan. O grempogau bach eog mwg i wyau selsig, mae popeth yn addas yn y Proms (nid yw’n anghyffredin i weld bwrdd caws llawn!). Ond gwnewch yn siŵr nad ydych yn dod â gormod o alcohol.

Eich llais

Bydd rhaglen ddisglair o ffefrynnau cerddorfaol a chlasuron cyd-ganu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i hymian a chanu drwy’r noson. Hyd yn oed os nad ydych yn hoffi canu yn gyhoeddus, byddem yn synnu os nad ydych chi o leiaf yn hymian i Land of Hope and Glory. Os nad ydych chi’n hoffi’r syniad hwnnw o gwbl, bydd tapio’r traed yn ddigon.

Dillad addas

Gellir mynegi hyn mewn sawl ffordd wahanol. Gall olygu haenau rhag ofn iddi oeri gyda’r hwyr, dillad dwrglos rhag ofn iddi fynd yn wlyb (annhebygol yn Abertawe, yn amlwg) a gall hefyd olygu ‘dillad prom’ clasurol (popeth o deis bô a ffrogiau Jac yr Undeb, i hosanau cerddorol a hetiau cennin pedr Cymreig).

Trafnidiaeth

Yn olaf, sicrhewch eich bod yn cyrraedd ac yn gadael y Proms yn ddiogel. Darllenwch am yr holl drefniadau parcio a gwybodaeth am drafnidiaeth arall ar ein gwefan. Does neb am fod ar ei ben ei hun wedi’i orchuddio mewn baneri!