fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Teithiau Cerdded, Rhaeadrau a Rhyfeddodau Cudd


C 10th August 2017

 

Teithiau Cerdded, Rhaeadrau a Rhyfeddodau Cudd yn y Cymoedd Gwledig

Nid oes llawer o bobl yn gwybod pa mor ddiddorol a hardd yw cefnwlad Bae Abertawe. Mae llai fyth yn gwybod pa mor hawdd a diffwdan yw hi i gyrraedd yno ar fws o Abertawe. Felly rydym ni’n mynd i ddweud wrthych!
Gadewch i ni ddechrau gyda Chwm Tawe lle mae un o brif warchodfeydd adar yr RSPB yn nyffryn gwledig Cwm Clydach. Mae bws rhif 14 yn mynd â chi’n syth i fynedfa’r warchodfa yng Nghraig-cefn-parc. Yna ceir y dreftadaeth gludiant ddiddorol y mae Camlas Tawe’n enghraifft ohoni. Mae cerdded ar hyd y llwybr halio (Clydach i Bontardawe neu Bontardawe i Odre’r Graig ) yn ddihangfa dawel o brysurdeb bywyd bob dydd ac mae’r cwm yn edrych mor ddeniadol o’r ongl hon. Mae bws rhif X50 neu X51 yn mynd â chi i’r Mond yng Nghlydach neu i Glwb y Jiwbilî ym Mhontardawe. Tro byr yn unig yw hi i gyrraedd llwybr halio’r gamlas.
Yna ceir Cwm Nedd a anfarwolwyd gan yr artist enwog, Turner, ymhlith eraill, lle mae’r crynhoad mwyaf o sgydau trawiadol ym Mhrydain. Mae bws rhif X55 yn mynd â chi’n syth i Wlad y Sgydau ym Mhontneddfechan, ac yno, gallwch ddewis rhwng teithiau cerdded mwy heriol i fyny i wyth sgwd nodedig. Mae’r X55 yn stopio ger rhaeadr brydferth Melin-cwrt ar y ffordd.
Yn olaf, ceir dau barc gwledig anhygoel yng Nghoedwig Afan a Margam. Mae Parc Coedwig Afan, sy’n enwog am ei lwybrau beicio mynydd, yn llai adnabyddus am ei rwydwaith o lwybrau troed hawdd ar hyd hen linellau rheilffordd, y mae un yn hygyrch ar fws. Mae’r X3 o Abertawe’n cysylltu â bws rhif 83 ym Mhort Talbot ac mae’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o bwyntiau mynediad ar gyfer teithiau cerdded yn y cwm. Mae gan Barc Margam gymaint i’w gynnig; hanes a threftadaeth wych, cyfle i grwydro drwy gefn gwlad hyfryd a phosibilrwydd o weld ei hyddgre. Mae’r X1 o Abertawe’n teithio’n syth i brif fynedfa’r parc ac ni fydd angen i chi dalu ffïoedd mynediad os ewch chi ar y bws.
Mae bysus yn mynd yn aml (o leiaf bob awr) o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ar ddydd Sul a gwyliau cyhoeddus, prin yw’r gwasanaethau sy’n gweithredu ar lwybrau’r X1 a’r X50.

Mae tocynnau diwrnod cyfan am brisiau fforddiadwy ar gael i bob ardal.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys teithiau cerdded, ar gael yn www.swanseabaywithoutacar.com