fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ydych chi wedi clywed y stori am Google a'r llwy garu fythgofiadwy?


C 20th July 2017

Ydych chi wedi clywed y stori am Google a’r llwy garu fythgofiadwy?

Anghofiwch nodiadau cariad a blodau, yr arwydd rhamantaidd gorau yng Nghymru yw’r llwy garu. Rhoddwyd llwy fel arwydd o hoffter yn yr 16eg ganrif yn gyntaf, a chaiff pob un ei cherfio’n hardd ac yn aml yn gymhleth o un darn o bren, er mwyn rhoi ystyr personol. Mae llwyau caru’n dal i fod yn hynod boblogaidd heddiw, ac fe’u dewisir yn rheolaidd fel anrhegion i goffáu achlysuron arbennig megis dyweddïo, priodasau, bedyddiadau a Dydd San Ffolant (neu Ddydd Santes Dwynwen os ydych yn dod o Gymru).

Ond beth yw’r cysylltiad rhwng y rhain a Google? Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), roeddem wrth ein boddau i ddarganfod bod llwy garu Gymreig hardd, nid draig neu genhinen bedr (er ein bod yn dwlu ar y rhain hefyd), wedi’i dewis i fod yn ‘Google Doodle’ ar hafan Google – ac roeddem mewn cwmni da. Roedd Patricia Price o Lovespoon Gallery yn y Mwmbwls ar ben ei digon o ganlyniad i ddewis Google. Ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil, daeth hi o hyd i’r person a oedd yn gyfrifol – Matt Jones o Gonwy yng ngogledd Cymru. Roedd ffrind yn Google wedi cysylltu â Matt, sydd bellach yn artist ac yn animeiddiwr yn LA, i ofyn am syniadau ynglŷn â’r hyn y gellid ei wneud i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd Matt ar lwy garu ac aeth ati i greu ei ddyluniad unigryw ei hun.
 
Er mwyn diolch i Matt am ei ran wrth dynnu sylw cynulleidfa fyd-eang at ran mor bwysig o dreftadaeth a diwylliant Cymru, mae Patricia wedi comisiynu cerfiwr i greu copi go iawn o lwy garu Matt, a gaiff ei hanfon ato yn LA. Rydym yn meddwl ei bod yr un ffunud â hi! Beth yw eich barn chi?
 
Os hoffech ddysgu mwy am lwyau caru Cymreig, neu brynu un fel anrheg i anwylyd, nid oes angen edrych ymhellach na Lovespoon Gallery gwych yn y Mwmbwls. Ers 1987 mae’r oriel wedi gwerthu llwyau caru a wnaed yn gelfydd â llaw a gellir dewis o gannoedd o ddyluniadau. Maent hefyd yn gofroddion gwych o Fae Abertawe! Edrychwch yn y siop ar-lein, neu hyd yn oed yn well, galwch heibio’r oriel os ydych ym Mae Abertawe.