fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Peidiwch â thaflu sbwriel - ewch ag ef adref gyda chi


C 12th July 2017

Mae digonedd o draethau prydferthyn Abertawe, 19 i gyd, ac rydym am i bawb eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Dyfarnwyd statws y Faner Las i lawer o’n traethau sy’n adlewyrchu pethau pwysig megis ansawdd dŵr, trefniadau rheoli’r traethau a pha mor lân ydynt.
 
Sut gallwch chi helpu?
Rydym am i’r holl ymwelwyr â’n traethau eu parchu, a’n helpu i’w cadw’n lân.

 
Mae’n hynod hawdd
All Y cyfan rydym yn ei ofyn yw i ymwelwyr ddefnyddio’r biniau sbwriel sydd ar gael er mwyn gwaredu eu sbwriel. Os yw’r biniau’n llawn, galwn ar ddefnyddwyr y traeth i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw. Gallwch hefyd roi gwybod i ni am finiau llawn yma er mwyn i ni allu eu gwagio.

 
Pa mor aml rydym yn glanhau’r traethau?
Yn ystod yr haf mae ein timau sbwriel yn casglu sbwriel o’r traethau bob bore Mae peth o’r sbwriel hwn wedi’i olchi i’r traeth pan fydd penllanw.

 
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Surfers Against Sewage (Adroddiad Sbwriel Morol) 2014-2020 amlygwyd bod:

Gweithgareddau traethlin a hamdden yn gyfrifol am 58% o wastraff morol.
Awdurdodau Lleol y DU yn gwario oddeutu £18 miliwn bob blwyddyn yn gwaredu gwastraff traeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 37% mewn costau dros y degawd diwethaf.

I gael gwybodaeth am sbwriel morol/arfordirol, a’r hyn y gellir ei wneud i helpu i leihau hyn a sut i wirfoddoli, ewch i:

Surfers Against Sewage
Marine Conservation Society
Keep Wales Tidy