fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Garreg Arthur


C 1st June 2017

 
Ydych chi wedi bod i weld King Arthur: Legend of the Sword? Anghofiwch ymddangosiad byr Beckham, mae gennym ein cysylltiad ein hunain â’r Brenin Arthur – Maen Ceti neu Garreg Arthur.

Un o’r henebion cynhanes enwocaf yng Nghymru, mae’r capfaen 25 tunnell yn sefyll yn fawreddog ar gopa Comin Cefn Bryn. Sut daeth ef yno? Yn ôl y chwedl, roedd y Brenin Arthur yn teithio yn Sir Gâr pan gafodd wared ar garreg o’i esgid a’i thaflu ar draws Moryd Llwchwr. Erbyn iddi gyrraedd ei gorffwysfan olaf yng Nghefn Bryn (pwy all ei beio am aros ym Mae Abertawe!), roedd y garreg bellach yn glogfaen anferth.

Drwy ymweld â’r garreg, byddwch yn gallu gweld y tirnod Cymreig anghredadwy hwn drosoch chi eich hun (fel y gwnaeth milwyr Brenin Harri VII ar ôl mynd 128km allan o’u ffordd yn fwriadol wrth iddynt deithio o Aberdaugleddau i Frwydr Bosworth), ynghyd â safle bedd neolithig sy’n dyddio’n ôl i 2500 CC. Dyma un o’r safleoedd cyntaf i gael eu diogelu o dan Ddeddf Henebion 1882. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn hanes, rydych chi wedi mwynhau’r ffilm am y Brenin Arthur neu rydych am fwynhau un o’n teithiau cerdded nodedig ar hyd Cefn Bryn, rydym yn argymell eich bod chi’n ymweld â’r safle.
 
Taith Cerrig Beddi ym Mae Abertawe.

 
Garreg Arthur: