fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Teithiau bysus syfrdanol o hardd ar benrhyn Gŵyr


C 19th May 2017

 
Mae’r bws Gower Explorer yn ffordd wych o brofi penrhyn Gŵyr yn ei lawn ogoniant ac archwilio’i faeau, ei draethau, ei arfordir mawreddog, ei dreftadaeth a’i chwedlau.
 
Y ffordd orau o gyrraedd Llwybr Arfordir Gŵyr eiconig yw drwy ddefnyddio bysus lleol. Maent yn cysylltu â’r llwybr mewn sawl mân ar y penrhyn, ac maent yn ffordd well o wneud teithiau cerdded unffordd. Drwy wneud hynny, byddwch yn arbed amser, ymdrech a chost.
 
• Does dim angen i chi fynd â dau gar, un ar gyfer dau ben y daith.
• Gallwch barcio mewn un mân, dal y bws a cherdded yn ôl i’r car.
• Yn well byth, gallwch wneud popeth drwy ddefnyddio’r bws – i’r man cychwyn – ac yn ôl o ben eich taith.
 
Ceir tocynnau ar gyfer pob taith y gallwch eu prynu ar y bws sy’n werth da am arian ac sy’n galluogi teithio diderfyn:
 
• £4.20 am Docyn Dydd Dinas Abertawe First Cymru sy’n ddilys ar bob gwasanaeth i’r Mwmbwls a gwasanaeth 14 i Landeilo Ferwallt a Chlogwyni Pennard.
• £5.00 am Docyn Dydd Crwydro Gŵyr sy’n ddilys ar wasanaethau 114-119* yn unig
• £5.50 am Docyn Archwilio Gŵyr sy’n ddilys ar holl wasanaethau bysus y Mwmbwls a Gŵyr
• £3.50 yn unig am Docyn Gorllewin Gŵyr yn ystod cyfnodau tawel sy’n ddilys ar wasanaethau 114-119 o Gilâ tua’r gorllewin rhwng 08.45 a 16.30
 
Os ydych chi’n dod i’r ardal ar drên, prynwch docyn ‘Archwilio Gŵyr’ wrth brynu eich tocyn trên i Abertawe sy’n cynnig teithio di-derfyn i chi yn ninas Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr
 
• £5.40 am ddiwrnod
• £13.00 am wyliau byr neu benwythnosau hir (mae’n ddilys am dridiau)
 
*16 oed ac iau; ac mae tocynnau i’r teulu ar gael gyda’r cynigion hyn
 
BayTrans yw’r brif wefan ar gyfer gwybodaeth am gludiant cyhoeddus i ymwelwyr â Bae Abertawe. Ewch i’n gwefan, www.swanseabaywithoutacar.com, a chewch wybodaeth yn ddi-oed pan fyddwch yn dod i’r ardal. Mae’r wefan hefyd yn eich cyfeirio i’r gwasanaeth cludiant cyhoeddus gorau i unrhyw le yr hoffech fynd yn Abertawe, Gŵyr, y Mwmbwls, Castell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd.