fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Profiad o Fyw fel Gwersyllwr I'm a Celebrity am Ddiwrnod


C 14th November 2016

 
Mae 2016 yn nodi’r 14fed cyfres o I’m a Celebrity! Ydy, mae hynny’n gywir! Yn ystod y 14 blynedd diwethaf, rydym ni wedi bod yn gaeth i’n sgriniau wrth i Ant a Dec ollwng grŵp ar ôl grŵp o enwogion mewn i’r jwngl yn Awstralia. Nid ydym ni’n gwybod os ydych chi’n cytuno, ond ar ôl yr holl amser hwn, rydym ni’n ysu i roi cynnig arno ein hunain. Yn anffodus, heb fod yn berson adnabyddus neu hedfan i Awstralia a tharfu ar y gwersyll, nid oedd hi’n edrych fel y bydden ni byth yn cael y cyfle i gael profiad I’m a Celebrity … nes ein bod ni’n sylweddoli bod gennym ni rywbeth cystal ar ein carreg drws. Byddwch yn neidio fel cangarŵ wrth i chi gael gwybod eich bod chi’n gallu cael profiad o fyw fel gwersyllwr I’m a Celebrity am ddiwrnod … ym Mae Abertawe!
 

the-grand-entrance-welsh
 
Nid ydym erioed wedi hoffi’r mynediad ofnus ar hofrennydd; rydyn ni ar #DîmCwchCyflym gydag Ant a Dec. Gyda morloi a llamhidyddion yn lle crocodeiliaid a chimwch yr afon, neidiwch ar gwch y Gower Coast Adventures aAdventures a mordeithiwch heibio Arfordir (Aur) Gŵyr a Bae arobryn (Byron) Rhosili.
 

see-all-welsh

 
the-camp-welsh
 
Nid yw Snake Rock a Crock Creek yn ymddangos o unlle! Mae angen gwersyllwyr cwynfanllyd sydd ar lwgu er mwyn eu gwneud nhw’n gartrefol. Dryad Bushcraft yw un o sefydliadau hyfforddi Goroesi yn y Gwyllt a Chrefft y Goedwig mwyaf blaengar y DU. Mae’n cynnig yr antur awyr agored gorau (heb newynu, cwyno ac ymlafnio), gallwch ddysgu sut i adeiladu lloches, cynnau tân heb y moethusrwydd o gael matsis, dod o hyd i fwyd a dŵr eich hun, yn ogystal â phob math o awgrymiadau goroesi yn yr awyr agored a fyddai’n paratoi unrhyw un ar gyfer noson o dan y sêr.
 
see-all-welsh

 
the-bug-trial-welsh
 
Ydych chi erioed wedi gwylio ‘I’m a Celebrity’ ac wedi brolio y gallech chi fwyta’r pryfed yna neu ddal y chwilod duon aflonydd yna? Os ydych, mae Heriau Bush Tucker Plantasia! yn berffaith addas i chi!
 
see-all-welsh

 
the-arguments-welsh
 
I atal rhyfel cartref yn y gwersyll (Dickinson v Franks, Wilkinson v Currie, Cameron v Benn, Hopkins v pawb), mae adeiladu tîm yn hanfodol. Gyda nifer o gyrsiau wedi’u creu yn benodol i hybu sgiliau adeiladu tîm ac arwain, mae Carreg Adventure. yn berffaith. Mae’n cynnig gweithgareddau byw yn y gwyllt, cyfeiriannu, adeiladu tanau gwersyll, dringo coed – holl ffefrynnau cadarn I’m a Celebrity. Yn ogystal â chadw’r heddwch yng ngwersyll y jwngl, mae hefyd yn wych ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm corfforaethol.
 
see-all-welsh

 
the-adrenaline-junkie-welsh
 
Llai fel Dean Gaffney a Helen Flanagan a mwy fel Carl Fogarty a Vicky Pattison, mae angen frwdfrydig a natur anturus (ac weithiau bod yn ddewr) i gyflawni rhai o’r heriau Bushtucker. Ogofa, abseilio, adeiladu rafftiau, dringo … dyma rai o weithgareddau gorau I’m a Celebrity a gynigir gan y cwmni arbennig Adventure Britain.

see-all-welsh

the-bushtucker-welsh
 
Oni bai eich bod chi’n ddigon lwcus i rannu gwersyll gyda phen-cogydd fel Gino D’Acampo, bydd angen i chi wybod sut i goginio a pharatoi bwyd awyr agored. Yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau antur, gan gynnwys dringo coed, caiacio ac abseilio, gallwch hefyd goginio yn yr awyr agored gyda’r cwmni Down to Earth (gan ddysgu un neu ddau beth am adeiladu ecolegol ar yr un pryd).
 

see-all-welsh