fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Gweithgareddau Hanner Tymor ym Mae Abertawe


C 18th October 2016

Mae hanner tymor mis Hydref ar y gorwel ac mae llawer o resymau dros gynllunio seibiant hydrefol ym Mae Abertawe. O weithgareddau awyr agored i ddigwyddiadau creadigol a cherddorol, os yw eich teulu yn chwilio am chwa o adrenalin neu os ydynt am ymchwilio a mwynhau celf a chrefftau, Abertawe yw’r lle i aros a chwarae.Top 5 Things to do this Autumn

Y 5 peth gorau i’w gwneud yn ystod yr hydref

1  – Rhowch gynnig ar Grefft y Goedwig
Dysgwch sut i baratoi ar gyfer antur goedwigol, adeiladu llochesau, cynnau tân heb fatsis, darganfod bwyd a dŵr, coginio dros dân agored a chael cryn hwyl hefyd! Dewch o hyd i’ch rhinweddau Bear Grylls chi! Mwy

2  – Hwyl yn y dŵr yn yr LC
Mae’r haf ar ben ond bydd eich rhai bach yn dwlu ar ddŵr yr LC. Gan gynnwys rhwydwaith cyffrous o byllau, reidiau a sleidiau, mae Parc Dŵr yr LC yn gartref i’r pwll tonnau poblogaidd a’r Masterblaster, sleid enwog yn null rheilffordd droellog sy’n saethu pobl ar gylch rwber i fyny ar ffrwd dŵr ac yna’n eu gadael i rym disgyrchiant!! Beth sydd ddim i’w hoffi? Mwy

3 – Ewch ar eich beic!
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertaweddigon o lwybrau beicio heb draffig sy’n addas i deuluoedd ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r Lôn Geltaidd. Ymlaciwch gyda thaith feicio ar hyd y prom, ac os yw’n well gennych rywbeth sy’n llawn adrenalin – anelwch am y bryniau! Mwy

4 – Byddwch yn greadigol yn Oriel Glynn Vivian ar ei newydd wedd
Mae oriel gelf eiconig Abertawe wedi ailagor ar ôl gwaith adnewyddu helaeth. Gyda chasgliadau ac arddangosfeydd newydd cyffrous – peidiwch â cholli lluniau Leonardo da Vinci o’r Casgliad Brenhinol – mae’n rhywle y mae’n rhaid i chi ymweld ag ef y tymor hwn os ydych ym Mae Abertawe.

5 – Dewch i fwynhau rhai o draethau gorau’r DU
Mae Gŵyr yn gartref i rai o’r traethau gorau yn y DU. Mae’n berffaith ar gyfer teithiau cerdded yn awyr iach yr hydref, adeiladu cestyll tywod, pêl-droed neu bêl foli traeth. Bydd y golygfeydd yn unig yn ddigon i’ch syfrdanu – felly cofiwch y camera! Mwy…

bushcraft-legens-cy