Mae The Studio gan Pablo Picasso a Snow Storm gan JMW Turner ymysg y paentiadau, y cerfluniau, y cerameg a’r gwaith celf arall a fydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld o ddydd Sadwrn 15 Hydref.
Bydd gwaith gan ddau o’r artistiaid enwocaf erioed yn cael ei arddangos yn Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe pan fydd yn ailagor y penwythnos nesaf.
Bydd y ddau ddarn o waith ymysg nifer o weithiau celf yn Oriel Gelf Glynn Vivian sydd wedi’i hailddatblygu a’i adnewyddu, sydd wedi’i chadw’n gelfydd a’i thrawsnewid yn atyniad sy’n addas i ymwelwyr yr 21ain ganrif.
Mae eu harddangos o ganlyniad i statws Glynn Vivian fel partner yn Plus Tate – menter celf ar y cyd o bwys gydag Oriel enwog Tate yn Llundain.
Ariannwyd y prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd yn y Glynn Vivian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Sicrhawyd arian hefyd trwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’n wych y bydd gwaith gan artistiaid nodedig fel hyn yn cael ei arddangos er budd ymwelwyr pan fydd y Glynn Vivian yn ailagor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn 15 Hydref.
“Bydd y paentiadau hyn ynghyd ag arddangosiadau a gweithiau eraill gan artistiaid cyfoes mewn lleoliad sydd wedi’i ailddatblygu a’i adfer yn ysbrydoli, yn cyfareddu ac yn addysgu cannoedd ar filoedd o bobl dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Leonardo da Vinci: Bydd deg llun o’r Casgliad Brenhinol, hefyd yn cael eu harddangos yn y Glynn Vivian o 15 Hydref.
Mae nodweddion yr oriel sydd wedi’i hailddatblygu a’i hadfer yn cynnwys storfa gasgliadau newydd ar gyfer gwaith celf ac ardaloedd newydd ar gyfer darlithio, arddangosfeydd teithiol, ymchwil ac arddangosiadau’r casgliad.