fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae'n Swyddogol - Rydym ni'n EPIC!


C 10th October 2016

Ac os ewch chi i Rosili dros y penwythnos, gallwch weld y dystiolaeth! Bydd y llythrennau adlewyrchol enfawr hyn sy’n cyrraedd taldra epig (sori!) o 4 metr o uchder ac 11 metr o led yn cymryd y sylw i gyd gan edrych dros Fae Rhosili a Phen Pyrod eiconig. Croeso Cymru sydd wedi adeiladu’r gosodiad gwych hwn, ac maent yn ei osod mewn sawl lleoliad allweddol yng Nghymru dros yr haf er mwyn dathlu 2016 fel ‘Blwyddyn Antur’. Rhosili yw’r cyrchfan olaf ond un, a datgelwyd y llythrennau ddydd Iau – mewn da bryd i syfrdanu ein hymwelwyr dros Ŵyl y Banc!

5 rheswm i egluro pam rydym yn cael haf EPIC!

1.Rydym yn dathlu Pen-blwydd Gŵyr!

rhossili
Mae Gŵyr yn 60 mlwydd oed – ac yn dathlu 60 mlynedd fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – yr AoHNE gyntaf erioed (ac yn ein barn ni, y gorau hefyd – ond efallai rydym ni’n rhagfarnllyd!)
 

2. Rydym oll am fod yn bencampwyr Olympaidd!

volleyball
Rydym wedi croesawu’r Gemau Olympaidd yn llawn ym Mae Abertawe (ac rydym yn edrych ymlaen at y Gemau Paralympaidd) – ac os hoffech osod eich her Olympaidd bersonol eich hun, gallwch roi cynnig ar saethyddiaeth, padlo bwrdd ar eich traed neu farchogaeth. Cymryd rhan sy’n bwysig!
 

3. Rydym wedi darganfod y llwybr i hapusrwydd!

Three-Cliffs
Ei enw yw Llwybr Arfordir Gŵyr! Nid oes unrhyw beth yn well na darganfod Gŵyr o safbwynt newydd ar hyd llwybrau clogwyn, wrth i adar y môr drydar, a’r tonnau’n taro isod. Yr union beth i adfer eich carma.
 

4. Rydym wedi darganfod ein hanturiwr mewnol!


Yn galw ar deuluoedd anturus – dyma’r lle i ryddhau personoliaeth Bear Grylls eich plant! Gallant adeiladu hyder a chael hwyl ar yr un pryd – syrffio’r tonnau, dringo’r wal, bwrw’r targed!
 

5. Rydym yn dwlu ar fwyd!

Rydym yn ffodus bod gennym gynnyrch lleol blasus o dir a môr – ac mae ein hufen iâ, wel, yn EPIC!         Mae ein bwytai’n edrych dros faeau a thraethau – gydag un ohonynt yn 351 troedfedd o uchder – golygfeydd gwych!