1. Hufen iâ i bawb! – ceir enghraifft berffaith o gydweithrediad Ewropeaidd yn Verdi’s, ein siop hufen iâ Gymreig/Eidalaidd.
2. Bwrdd i ddau – gyda golygfa braf o’r glannau, Café TwoCann yw’r lle perffaith am bryd rhamantus i ddau.
3. Dewch draw am beint – ceir cyfuniad perffaith o dechnoleg a lluniaeth yn y Westbourne.
4. Pryd â golygfa – mae’r olygfa anhygoel o ben adeilad uchaf Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â’ch pryd yn y Grape & Olive.
5. Blas ar hanes – oes awydd canfod mwy am ein treftadaeth arnoch? Cewch ddigon o wybodaeth am hanes Gŵyr wrth i chi fwynhau gwledd o gynnyrch lleol ffres yn y Welcome to Town.
6. Y dwyrain pell ar garreg eich drws – cewch flas ecsotig o’r Dwyrain Pell rownd y gornel yn y Railway Thai Table.
7. Gadewch olion troed yn unig – cyfle i gael egwyl o’r esgidiau cerdded yn Siop Goffi Coed Cwm Penllergaer.
8. Picnic crand – te prynhawn unigryw yng Ngwesty Bae Oxwich ger y traeth.
9. Tamaid i’w fwyta ar ôl prynhawn prysur – nid oes unrhyw beth yn codi awch bwyd ar rywun yn fwy na sesiwn padlo bwrdd ar eich traed gyda 360.
10. Bwyd a golygfa ogoneddus – yng Ngwesty Pen Pyrod yn edrych dros Fae Rhosili (un o’r 10 Traeth Gorau am bum mlynedd yn olynol) – oes angen dweud mwy?