Os ydych wedi bod yn dioddef symptomau diddyfnu yn dilyn yr Ewros, peidiwch â phoeni…mae ymgyrch newydd yr Uwch-gynghrair ar y gorwel ac mae’n ymddangos yn un cyffrous iawn! Mae rhai o enwau enwocaf byd pêl-droed yn ymuno â’r Uwch-gynghrair ar gyfer y tymor hwn. Gydag enwau fel Mourinho, Guardiola a Conte ar fin ychwanegu Bae Abertawe i’w rhestr cyrchfannau eleni, rydym yn cyfri’r munudau tan yr ymgyrch newydd.
Yma ym Mae Abertawe rydym yn bwriadu rhoi’r profiad gorau o’r Uwch-gynghrair i gefnogwyr oddi cartref. Gyda’n traethau arobryn, golygfeydd gwefreiddiol, amrywiaeth o weithgareddau a lleoedd gwych i fwyta ac yfed, rydym yn hyderus y byddwch yn dychwelyd adref yn hapus, beth bynnag yw canlyniad eich tîm yn Stadiwm Liberty y tymor hwn.
Os ydych yn cynllunio’ch teithiau oddi cartref ar gyfer y tymor sydd ar ddod, byddwch yn siŵr o ychwanegu Bae Abertawe at frig eich rhestr.
Dyma rai rhesymau pam…
O fythynnod a charafanau cartrefol i westai a lletyau gwely a brecwast cyfleus, nid yw Bae Abertawe’n brin o leoedd i aros ynddynt. Beth bynnag yw’ch dewis neu’ch cyllideb, mae’r lleoliad perffaith ar gyfer eich ymweliad chwaraeon yn aros amdanoch.
Am gadw’r adrenalin i fynd ar ôl cyffro’r gêm? Beth am gael antur ym Mae Abertawe? O anturiaethau arferol i rai unwaith mewn oes, mae gennym ddigon o weithgareddau dan do ac awyr agored sy’n addas i’r teulu cyfan, gan gynnwys y rhai bach a mawr, y rhai anodd eu plesio a’r rhai sy’n ifanc eu hysbryd!
Mae gan Abertawe amrywiaeth eang o opsiynau bwyd a diod, o siopau coffi a chaffis cartrefol i fwytai a bwyd tafarn traddodiadol. Ychwanegwch beth hufen iâ o’r radd flaenaf – efallai mae’n bryd anghofio am y pei arferol cyn y gêm!
Os hoffech anghofio’r gêm a’r canlyniad, bydd ein golygfeydd godidog a thros 400 milltir o lwybrau cerdded yn eich helpu. Mwynhewch olygfeydd panoramig o lwybr arfordirol darluniadol Gŵyr, llynnoedd a rhaeadrau Coed Cwm Penllergaer, a 5 milltir Bae Abertawe gyda golygfeydd gogoneddus draw i’r Mwmbwls. Cofiwch ddod â’ch camera, byddwch chi am fynd â’r golygfeydd adref!
Ar ôl cicio pob pêl, penio pob gôl a chlirio pob pêl gyda’ch tîm, beth am ddathlu (neu gydymdeimlo!) yn un o’n barrau neu fwytai niferus. Os ydych yn chwilio am leoedd i ymlacio mae yna ddigon i ddewis ohonynt.