fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Y Ffordd i Rio (trwy Fae Abertawe)


C 1st August 2016

 
Os gwnaethoch fwynhau Llundain 2012 cymaint â ni, mae’n rhaid eich bod yn cyfri’r dyddiau i ddechrau Gemau Olympaidd Rio – yn union fel ni. Gyda 29 o fedalau aur, 17 arian a 19 efydd, roedd perfformiad Tîm PF yn anhygoel, gan ennill ein balchder am orffen yn drydydd yn y tabl medalau terfynol. Yn anffodus, yn wahanol i Lundain, mae Brasil ychydig yn rhy bell i alw heibio i weld digwyddiad neu ymdrochi yn yr awyrgylch. Ond peidiwch ag ofni, mae digon o ysbryd Olympaidd ym Mae Abertawe lle gallwch roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon Olympaidd – felly dewch i gymryd rhan (a pheidiwch â cholli ein Hardal Gefnogwyr Olympaidd).) Caramba!
 

Beicio

Cyfanswm Medalau Llundain 2012 (Ffordd a Thrac): 8 Aur, 2 Arian, 2 Efydd.
 
Cycling-Prom
 
Gyda dau gawr trac a ffordd, sef Syr Chris Hoy a Syr Bradley Wiggins, yn arwain y ffordd, os oes un gamp mae Tîm PF yn rhagori ynddi, beicio yw hynny – ac mae’n un o’r campau mwyaf poblogaidd ym Mae Abertawe. Fel rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Lôn Geltaidd y Gorllewin, mae gennym ddigonedd o lwybrau beicio heb draffig gyda golygfeydd gogoneddus sy’n cystadlu’n hawdd â pheithiau Brasil. Well gennych feicio oddi ar y ffordd? Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â Pharc Coedwig Afan, a ddisgrifiwyd fel un o’r ‘10 Lle Gorau i Feicio’ yn y byd gan gylchgrawn Mountain Bike Rider ac yn y 10 lle gorau ar gyfer ‘Gwyliau Beicio’r DU’ gan gylchgrawn Mountain Biking UK. Mae gan holl lwybrau beicio mynydd y parc ddisgynfeydd trac sengl, dringfeydd aruthrol, a golygfeydd godidog dros gymoedd De Cymru.
 
Gwybodaeth Ddefnyddiol
 
Lawrlwythwch y map parcio beiciau yma.
O logi beiciau i’r anabl, ewch i visit www.bikeabilitywales.org.uk
Llety gyda lle istorio beiciau.
 


 

Pêl Foli Traeth

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 0 (rhaid gwneud yn well!)
 
Road to Rio Swansea Beach-Volleyball
 
Iawn, nid yw’n union yr un peth â Copacabana ond fyddwch chi ddim yn dod o hyd i lawer o leoliadau gwell yn y DU ar gyfer chwarae pêl foli traeth na Bae Abertawe Dewch i logi cwrt am gêm gyda’ch teulu neu ffrindiau neu drefnu ‘sesiwn hwyl’ sy’n cynnwys llogi cwrt, cyfarpar a hyfforddwr i’ch helpu i ddysgu’r hanfodion/gwella’ch sgiliau. Dewch i’w gweld!
 


 

Hwylio

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 1 Aur, 4 Arian, 0 Efydd
 
Road to Rio Swansea Sailing
 
Camp Olympaidd arall rydym yn eithaf da yn ei chyflawni (yn benodol ar ffurf Syr Ben Ainslie) yw hwylio. Yma ym Mae Abertawe mae gennym ddau gwrs profedig gwych ar benrhynprydferth Gŵyr – tmae cyrsiau ysblennydd Clwb Golff Gŵyr (cwrs 18 twll mewn ardal donnog gyda chyfleusterau ymarfer a thiwtora) a Chlwb Golff Parc Fairwood (15 munud o ganol Abertawe gyda 18 twll ar gyfer gemau golff o’r radd flaenaf).
 


 

Golff

 
Road to Rio Swansea Golf
 
Ar ôl 112 o flynyddoedd, mae golff ar fin dychwelyd fel camp Olympaidd yn Rio gyda chwrs newydd sbon wedi’i greu’n benodol ar gyfer y Gemau Olympaidd. Yma ym Mae Abertawe mae gennym ddau gwrs profedig gwych ar benrhyn prydferth Gŵyr – mae cyrsiau ysblennydd Gower Peninsular – stunning Clwb Golff Gŵyr (cwrs 18 twll mewn ardal donnog gyda chyfleusterau ymarfer a thiwtora) a Chlwb Golff Parc Fairwood (15 munud o ganol Abertawe gyda 18 twll ar gyfer gemau golff o’r radd flaenaf).
 


 

Canŵio a Chaiacio

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 2 Aur, 1 Arian, 1 Efydd
 
Road to Rio Swansea Canoe-Kayak
 
Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan Dîm Canŵio PF yn Llundain 2012, a enillodd 3 medal anhygoel – ydych chi’n cofio’r cystadlu dramatig am y safle cyntaf a’r ail safle yn y slalom i ddynion? Gwnaethom ddangos hefyd ein bod yn ddigon medrus mewn caiac, gan ennill medalau aur ac efydd. Un o’r ffyrdd gorau i archwilio Bae Abertawe ar ei orau yw o’r dŵr, gan ei fod yn eich galluogi i fynd yn nes at fyd natur a darganfod ein traethau a’n harfordir hardd o onglau newydd. Os nad oes gennych eich caiac eich hun, mae gennym ddigon o weithredwyr sy’n llogi canŵod a chaiacau.
 


 

Campau Marchogol

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 3 Aur, 1 Arian, 1 Efydd
 
Road to Rio Swansea Equestrian
 
Roedd perfformiad Tîm PF yng nghampau marchogol Llundain 2012 ymhlith y goreuon, ac enillwyd nid llai na phum medal (tair aur, un arian ac un efydd). Nid yw llawer ohonom yn ddigon ffodus i berchen ar ein ceffyl a’n stabl ein hun, felly os ydych erioed wedi eisiau rhoi cynnig arno, ewch i Ganolfan Marchogaeth a Gweithgareddau Fferm y Clun. Gydag 80 erw o goetiroedd a phorfeydd hyfryd heb draffig, mae’n lleoliad gwirioneddol brydferth a pha ffordd well o’i archwilio nag ar gefn ceffyl (neu ferlyn!).
 


 

Nofio

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 0 Aur, 1 Arian, 2 Efydd
 
Road to Rio Swansea Swimming
 
Mae nofio’n un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous yn y Gemau Olympaidd – mae cyffro’r ras 4 x 100m yn dal yn un o’n ffefrynnau pennaf. Os ydych yn mwynhau nofio mewn lôn, cofiwch fod Bae Abertawe’n gartref i Bwll Cenedlaethol Cymru , sydd wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi gan amrywiaeth o athletwyr Olympaidd. Hoffech chi gael gwefr eich hun neu ddod â’r plant? Ystyriwch LC Abertawe, parc dŵr a hamdden gorau Cymru. Er na fyddwch yn gweld llithrennau dŵr a Boardriders yn Rio, maent yn bendant o safon Olympaidd – byddwch yn mwynhau mas draw.
 


 

Pêl-droed

 
Road to Rio Swansea Football
 
Nid oes angen rhoi cyflwyniad i bêl-droed – yn enwedig yma ym Mae Abertawe yn sgîl campau arwrol tîm Cymru (mae hwyliau pawb dal yn uchel!). Gallwch chwarae pêl-droed bron yn unrhyw le, ond mae pêl-droed traeth yn stori wahanol. Ewch i Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360s on ar draeth Bae Abertawe i roi cynnig arno!
 


 

Tenis

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 1 Aur, 2 Arian, 0 Efydd
 
Road to Rio Swansea Tennis
 
Mae rhai’n honni mai Llundain 2012 a ysgogodd daith anhygoel Andy Murray i’w deitl Camp Lawn gyntaf ym Mhencampwriaeth Agored UDA, trwy ennill medal aur Olympaidd ar gwrt canolog Wimbledon yn erbyn cawr y byd tenis, Roger Federer. Gydag Andy hefyd yn cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd eleni, mae tenis ar fin dod yn un o’r prif gampau Olympaidd yn Rio. Os ydych yn ymweld â ni ym Mae Abertawe, cofiwch bacio’ch raced gan fod gennym nifer o gyrtiau dan do ac awyr agored gwych..
 


 

Saethu

Cyfanswm Medalau Llundain 2012: 1 Aur, 0 Arian, 0 Efydd
 
Road to Rio Swansea Shooting
 
Er y gellid dadlau nad yw’r gamp hon mor flaenllaw â beicio a nofio, roedd Llundain 2012 yn freuddwyd wedi’i gwireddu i Peter Wilson o Dîm PF, a ddaliodd ei blwc i ennill aur yn y fagl ddwbl i ddynion. Ydych chi’n cofio’r syndod pur ar ei wyneb? Os ydych am brofi’r wefr adrenalin a geir trwy dynnu’r glicied a bwrw targed, mae Adventure Britain a Chanolfan Marchogaea Gweithgareddau Fferm y Clun Clun yn cynnig saethu colomennod clai ill dau. Yn yr un modd, mae saethyddiaeth hefyd yn llawer o hwyl – ac mae digonedd o leoedd lle gallwch roi cynnig arni ym Mae Abertawe.

 


 

Ardal Gefnogwyr swyddogol Tîm PF

 
MMae cyffro Gemau Olympaidd Rio 2016 yn dychwelyd i Abertawe yr haf hwn gydag Ardal Gefnogwyr swyddogol Tîm PF yn Sgwâr y Castell.

 

Road to Rio Swansea Fanzone