Cyfarchion pigwyr pop! Croeso i’r Siart Perfformio Cerddoriaeth Fyw ddiweddaraf – sy’n cynnwys cerddoriaeth wych y gellir ei mwynhau yn FYW yn 2016. Felly, stopiwch beth bynnag’r ydych yn ei wneud, trowch y sain i fyny a pharatowch am ganeuon poblogaidd y siartiau, hen ffefrynnau ac ambell gân newydd, wrth i ni baratoi gyfrif yn ôl o 10 i 1 yr artistiaid mawr a fydd yn ymweld â Bae Abertawe yn 2016.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda Nicola Bendetti
16 Mehefin | 7.30pm | Neuadd Brangwyn
Rhif 10 yw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda’r unawdydd gwadd, Nicola Bendetti, â dau darn gwefreiddiol. Gallwch eu gweld yn cau’r tymor mewn steil gyda pherfformiadau o Goncerto Rhif 2 Symanowski i’r feiolin yn D Fwyaf a Symffoni Rhif 1 yn D Fwyaf gan Mahler 1860-1911, yn Neuadd Brangwyn.
Lionel Richie
18 Mehefin | 8pm | Stadiwm Liberty
Yn dychwelyd i’r siart yn rhif 9 mae’r canwr enaid enwog, Lionel Richie. Dawnsiwch drwy gydol y nos mewn sioe o’i ganeuon mwyaf enwog a phoblogaidd yn Stadiwm Liberty.
The Proclaimers
18 Mehefin | 7.30pm | Theatr y Grand, Abertawe
Mae The Proclaimers yn rhif 8 yr wythnos hon. O’r heulwen yn Leith i brydferthwch Bae Abertawe, peidiwch â cholli’r perfformiad arbennig hwn yn Theatr y Grand, Abertawe ym mis Mehefin.
Ultimate Eagles
25 Mehefin | 7.30pm | Theatr y Grand, Abertawe
Mae’r Eagles wedi cyrraedd rhif 7. Anghofiwch am Hotel California, trefnwch westy ym Mae Abertawe a dewch i weld y sioe fyd enwog hon a fydd yn cynnwys caneuon enwocaf y band.
Bringing on Back the 60’s
6 Gorffennaf | 7.30pm | Theatr y Grand, Abertawe
Yn dringo un lle mae Bringing on Back the 60’s sy’n cynnwys y New Amen Corner. Os ydych yn dwlu ar gerddoriaeth y 60au, dawnsiwch drwy’r nos, gyda pherfformiadau anhygoel o rai o ganeuon mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y degawd hwn. Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau hirddydd haf gyda ni yn y ddinas.
The Bohemians ‘Live Queen’
22 Gorffennaf | 7.30 pm | Theatr y Grand, Abertawe<
Yn dringo’r siart i hawlio safle rhif 5 mae The Bohemians ‘Live Queen’. Os ydych yn teimlo dan bwysau, yna ymlaciwch a mwynhewch berfformiad syfrdanol o gyfnod Queen ar ei anterth, gan gynnwys gwallgofrwydd y 70au a swyn yr 80au.
Noel Gallagher’s High Flying Birds
2 Medi | 4pm | Parc Singleton
Yr ychwanegiad mwyaf i’r siart yr wythnos hon yw Noel Gallagher’s High Flying Birds. Mae Noel Gallagher, un o artistiaid mwyaf llwyddiannus yr ugain mlynedd diwethaf, yn dychwelyd i Barc Singleton gyda’i ganeuon a ddiffiniodd cenhedlaeth, yn ogystal â’i ganeuon newydd – ei berfformiad cyntaf erioed yn Abertawe. Mae pawb yn rhuthro i gael gafael ar docynnau – felly prynwch docyn heddiw i osgoi cael eich siomi!
Christy Moore
10 Hydref | 8pm | Neuadd Brangwyn
Yn dilyn cyfres o berfformiadau proffil uchel megis cefnogi Coldplay yng Ngŵyl Oxegen a chael ei gynnwys yn y Rough Guide to Bob Dylan sy’n cynnwys yr ail-fersiynau gorau o ganeuon Bob Dylan, mae Christy Moore yn barod i gamu ar lwyfan hanesyddol Neuadd Brangwyn i nodi 50 mlynedd o deithiau cerddoriaeth.
Elaine Page
11 Tachwedd | 7pm | Neuadd Brangwyn
Yn safle rhif 2, am un noson yn unig, mae cyngerdd gan Elaine Paige yn Neuadd Brangwyn. Mae’n gantores aml-blatinwm ac aur, byd-eang, felly peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i wrando ar Elaine yn perfformio rhai o’i hoff ganeuon gan amrywiaeth o gyfansoddwyr caneuon cyfoes.
Katherine Jenkins
1 Rhagfyr | 7pm | Neuadd Brangwyn
Yn hawlio’r prif safle yn 2016 mae’r gantores ardderchog Katherine Jenkins, gyda’i chyngerdd Nadolig yn Neuadd Brangwyn. Gan gynnwys amrywiaeth o westeion arbennig a chaneuon o’i halbwm newydd, disgwyliwch ddathliad llawen a llawn ysbryd y Nadolig.