fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Archwilio Cymru; ymweliad Eidalwr ag Abertawe


C 6th May 2016

 
Mae Michela Zamuner, sy’n cyfrannu’n rheolaidd at y wefan deithio Eidalaidd, Nuok, wedi archwilio lleoliadau teithio ym mhedwar ban byd. Ond ar ôl gweld golygfeydd bendigedig dros Fae Rhosili ar daith ddiweddar i’r ardal, cafodd Michela flas am arfordir gwych Cymru.

Fel Eidalwr o Fenis, rwyf wedi hen arfer â thraethau prydferth a dinasoedd pert ar lan y môr. Dyna’r rheswm nad oeddwn yn disgwyl cael fy syfrdanu gan arfordir Gŵyr – mor anghywir oeddwn i!

Wedi byw yng Nghaerdydd ers tipyn, roedd archwilio’r ardaloedd cyfagos yn rhywbeth oedd ar fy rhestr o bethau i’w gwneud. Roedd gweld traethau Abertawe yn cael eu barnu ymysg y gorau yn y DU ac Ewrop wedi ennyn chwilfrydedd ynof a chan eu bod mor agos at Gaerdydd, roedd hi’n werth taith.

Dechreuodd ein gwibdaith ar fore disglair a heulog – y tywydd perffaith i archwilio! Roedd ymweld â rhannau gorau Bae Abertawe’n hwylus iawn yn y car – gadael y draffordd ac rydych yn cyrraedd y Mwmbwls cyn pen dim. Roedd cerdded ar hyd promenâd y Mwmbwls yn gyflwyniad hyfryd i’r arfordir. Mae’r ddinas yn llawn siopau bwtîc bach bendigedig a golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd, lle mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn gyfeillgar. Mae hyd yn oed darn o’m cartref yno gyda pharlwr hufen iâ Verdi’s ar y glannau.

Ar ôl ein taith gerdded fer, aethom i’r gorllewin ar hyd yr arfordir i fae gwych y Tri Chlogwyn. Yn cuddio y tu ôl i – ie, dyna ni – tri chlogwyn, ceir taith gerdded ychydig yn heriol i lawr i’r traeth, ond mae’n dangos natur a golygfa’r lleoliad yn wych. Ar y tywod, byddwch yn gweld cymysgedd o ffurfiannau creigiau, ogofau bychain ac, os ydych yn lwcus fel yr oeddwn i, rai ceffylau mawreddog. Yn farchogwr brwd, dyma antur rwy’n sicr yn ei chynllunio ar gyfer fy nhaith nesaf!
 
3-cliffs
 
Unwaith i ni gyrraedd yn ôl i fyny’r bryn, aethom i’r gorllewin eto i Fae Rhosili. Dyma uchafbwynt ein taith i Abertawe – traeth godidog gyda bryniau tonnog heb eu difetha ar un ochr a chlogwyni gogoneddus ar yr ochr arall. Fe’m rhyfeddwyd o weld golygfa ysblennydd Bae Rhosili – er bod gennym draethau gwych yn yr Eidal, dyma oedd un o’r rhai mwyaf syfrdanol i mi ei weld erioed.
 
rhoss
 
Os ydych yno yn hwyrach yn y dydd, gallwch gael rhai ffotograffau gwefreiddiol o’r haul yn machlud y tu ôl i’r clogwyni ac mae’n werth cerdded i’r ymyl i weld y bae o bob ongl posib. Mae’n serth iawn mewn rhai mannau, felly ar ôl cerdded o amgylch, cawsom egwyl mewn tafarn draddodiadol, The Worm’s Head, i fwynhau diod a rhai byrbrydau blasus wrth fwynhau’r machlud anhygoel.
 
sunset
 
Dyma oedd taith o’r radd flaenaf a’r peth gorau yw eich bod yn gallu ei wneud mewn diwrnod. Er nad ydw i wedi archwilio arfordir y DU yn helaeth, rwy’n eithaf sicr y byddai gwella ar daith y Tri Chlogwyn a Bae Rhosili’n amhosib. Os oes rhywle mor brydferth â’r Eidal, mae’n anodd ei guro!

Dilynwch deithiau Michela ar Twitter ac Instagram.