Wedi trefnu anturiaeth y Pasg ym Mae Abertawe? Da iawn, cewch chi wyliau i’w cofio! I’ch helpu i wneud yn fawr o’ch taith (a lliniaru rhywfaint o’r dolur pacio), rydyn ni wedi llunio rhestr o’r ‘hanfodion’ i bob ymwelydd.
Mae cerdded yn un o’r gweithgareddau gorau a mwyaf poblogaidd ym Mae Abertawe. P’un ai’n dir gwledig, arfordirol neu drefol, bydd mwy na digon o lwybrau cerdded i chi. Cewch chi drafferth dod o hyd i rywle gwell – yn enwedig o ran golygfeydd.
Mae pawb yn haeddu gwyliau, hyd yn oed y rhai â phedair coes. Mae gennym lawer o lwybrau cerdded, parciau a thraethau sy’n croesawu cŵn lle maen nhw’n gallu rhedeg, cloddio (tywod yn unig os gwelwch yn dda!), a nofio wrth fodd eu calon, gan gynnwys Bae Rhosili lle maen nhw’n cael croeso trwy gydol y flwyddyn!
Peidiwch â phoeni os yw llygaid mawr prudd yn tynnu ar linynnau’ch calon wrth adael ar eich gwyliau – mae croeso i bawb yma!!
P’un ai ydych yn brofiadol, yn amatur, yn ddechreuwr, neu ag uchelgais i fod y Kelly Slater nesaf, Gŵyr yw’r lle i fod. Cewch chi donnau neilltuol ar hyd y rhan fwyaf o Benrhyn Gŵyr, ond mae’n rhaid mai Traeth Llangynydd yw hufen yr hufen – wedi’i bleidleisio’n un o 10 uchaf y DU yn rhestr The Guardian fel man/traeth syrffio clasurol!
Dim lle i ddod â’ch bwrdd? Dim bwrdd gennych? Dim clem beth rydych chi’n ei wneud? Dim problem, tgall y rhain helpu.
SLR, DSLR, GoPro, symudol, hyd yn oed un tro. Beth bynnag yw’r arf a ddewiswch, cofiwch ddod â chamera (ffyn hunlun yn opsiynol)! Does dim angen dweud mwy, felly gadawn ni chi gyda hyn…;) #DimHidlydd 😉
#SwanseaBayAdventures
Mae Bae Abertawe’n gartref i lawer o draethau gorau Prydain. O drysorau tawel, cudd i’r rhai sy’n addas i deuluoedd ac yn llawn gweithgareddau, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i’ch gwyliau traeth perffaith. Golygfeydd trawiadol heb eu difetha, lle o’r neilltu, bywyd gwyllt hynod ddiddorol a’r cyfan yn rhad ac am ddim. Croeso.
Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac mae’n rhan o’r Lôn Geltaidd a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Beiciwch ar hyd Promenâd 5 milltir Bae Abertawe, prynwch hufen iâ, beiciwch ar rai o’r ffyrdd tawelach ar lwybr beicio Gogledd Gŵyr wrth edrych ar y golygfeydd panoramig, neu rhowch gynnig ar Daith Tawe ar gyfer beicio hwylus heb draffig sy’n wych i deuluoedd. Chwilio am rywbeth mwy eithafol? Dewch i feistroli llwybrau troellog, creigiog a gwyllt Parc Coedwig Afan. Ond cofiwch eich helmed!