Beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fo rhywun yn sôn am Fae Abertawe – traethau, syrffio, cerdded? Beth am fwyd? Efallai nad ydych chi’n gwybod, ond mae Bae Abertawe’n llawn lleoedd cyffrous i fwyta ac yfed. Ac mae hyn yn fwy na bwytai braf a chaffis clyd yn unig. Rydyn ni’n sôn am brydau gorchestrol o fwyd i bryfocio’ch blasbwyntiau yn ogystal â rhoi gwir flas ar ein seigiau arbennig lleol a ffefrynnau cenedlaethol Cymru.
Ni fyddai’r un daith i Fae Abertawe’n gyflawn heb brofi’n hufen iâ danteithiol – mae’n un o’r pethau rydyn ni’n adnabyddus amdano. Gyda nifer o barlyrau hufen iâ Cymreig ac Eidalaidd traddodiadol, y drafferth fydd dewis un. Ein hawgrym ni – mwynhewch hufen iâ Eidalaidd gyda hufen ffres yn Verdi’s yn y Mwmbwls wrth edmygu golygfa ysblennydd o’r arfordir.
Ciwio wrth y bar? Ddim ym Mae Abertawe. Rydyn ni’n falch o fod yn gartref i The Westbourne, tafarn hunanwasanaeth gyntaf Cymru, lle gallwch archebu bwyd, diodydd a byrbrydau trwy iPad ar eich bwrdd a pheidio â symud (mae pympiau lager a seidr ar bob bwrdd hyd yn oed!). Nodyn i selogion cwrw a chwrw go iawn – mae gan The Westbourne hefyd wal gwrw lle gallwch arllwys eich diodydd eich hunan a 6 phwmp cwrw go iawn ar y bar. Croeso i’r chwyldro hunanwasanaeth!
Mae’n anodd curo’r profiad o fwynhau pryd danteithiol gyda golygfa hardd. Ar frig adeilad uchaf Cymru, mae bwyty’r Grape and Olive yn cynnig golygfeydd godidog o Fae Abertawe a’r Mwmbwls. Gallwch hefyd giniawa yn adeiladau gwreiddiol doc SA1 a gweld golygfeydd dros yr hwylbont arobryn, ymlacio mewn caffis sydd mor agos at y traeth eu bod nhw bron â bod arno fe, edrych allan dros oleudy’r Mwmbwls, ac archwilio amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol megis ystafell de Fictoraidd wedi’i hadfer a 5 Rhodfa Cwmdoncyn – man geni Dylan Thomas.
Yng nghalon dinas Abertawe, lle mae wedi bod ers 50 mlynedd, Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Gyda thros 100 o stondinau, y mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gwasanaethu pobl Abertawe ers cenedlaethau; dyma’r lle i gael cynnyrch lleol ffres, danteithion o Fae Abertawe, a nwyddau Cymreig traddodiadol. Ond nid dyna’r cyfan. Hefyd, mae gennym farchnadoedd bendigedig mewn rhai o leoliadau gorau Bae Abertawe, megis Uplands, y Mwmbwls a Marina Abertawe.
Os ydych chi’n dwlu ar fwyd môr, mae’n rhaid i chi ymweld â’rMwmbwls lle gallwch ei fwynhau’n ‘ffres oddi ar y cwch’ (nid yw’n gorfod teithio’n bell!) Mae Marchnad Abertawe hefyd yn hafan o bysgod ffres a danteithion bwyd môr, gyda thri gwerthwr pysgod o safon a rotwnda fwyd môr yn y canol. Os nad ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein cocos a bara lawr enwog a lleol, dydych chi ddim wedi cael y profiad Bae Abertawe llawn.