fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Penwythnos Gwych ym Mae Abertawe


C 14th August 2015

Wrth i dymor Uwch-gynghrair Barclays ddechrau, mae cefnogwyr ledled y wlad yn brysur yn trefnu eu teithiau, yn barod i ddilyn eu tîmau hyd a lled y wlad.  Os ydych yn chwilio am benwythnos o adloniant yn hytrach na 90 munud, yna dylai Abertawe fod yn uchel ar eich rhestr o leoedd i ymweld ag ef, yn sicr!

Er mwyn arbed y drafferth i chi, rydym wedi creu cynllun gweithgareddau i chi ar gyfer Penwythnos Gwych ym Mae Abertawe…

Bore dydd Sadwrn (Cynhesu cyn y gêm)

Ewch am dro o amgylch Ardal Forol Abertawe. Ar un ochr mae traeth tywodlyd Bae Abertawe ac ar yr ochr arall, canol y ddinas fywiog.   Taith gerdded fer yn unig yw hi, ac mae atyniadau, gweithgareddau, siopau ac amrywiaeth o opsiynau i gael bwyd allan, felly, yn syml, popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer diwrnod gwych allan.

Mwynhewch frecwast hwyr yn CafeTwoCann, caffi, bar a bwyty arobryn sy’n cael ei reoli gan deulu, mewn adeilad Rhestredig Gradd 2 yng Nglannau SA1 Abertawe.

Unwaith rydych wedi mwynhau eich brecwast ac wedi cael gwared ar we pry-cop yr wythnos waith trwy fynd am dro, beth am fynd i’r LC, Prif Barc Dŵr a Chanolfan Hamdden De Cymru. Os ydych am Chwaraeon a Chwarae, Syrffio a Sblasio neu Iechyd a Ffitrwydd, bydd yr LC yn codi curiad eich calon ac yn rhoi egni i chi cyn cyffro’r gêm.

Os oes well gennych gyffroi eich ymennydd yn lle, yna beth am archwilio’r arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau neu Amgueddfa Abertawe sydd hefyd yn yr Ardal Forol. Dewch i ddarganfod stori ddynol diwydiant ac arloesedd Cymru nawr, a thros y 300 mlynedd ddiwethaf. Gan ddefnyddio’r technoleg ryngweithiol orau, mae Amgueddfa’r Glannau’n gadael i chi reoli’r profiad a’ch galluogi i ymchwilio i’r arddangosiadau cymaint ag y mynnwch. Edrychwch ar ein rhestr o bethau i’w gwneud er mwyn creu eich cynllun eich hunain.

Cinio (Orennau a diodydd egni yn ddewisol)

Eisiau bwyd eto? Beth am fwynhau eich cinio ar ben un o adeiladau preswyl talaf Cymru.  Mwynhewch y golygfeydd panoramig gwych dros Fae Abertawe a Chwm Tawe.  Efallai y cewch gipolwg cynnar ar y Theatr Breuddwydion, Stadiwm Liberty 😉

15:00 – 17:45 Mwynhewch y gêm… ond ddim gormod gobeithio!

The Liberty Stadium Swansea

Mae awyrgylch unigryw Stadiwm Liberty yn un o’r goreuon yn yr Uwch-gynghrair. Mae’r stadiwm siâp powlen dynn yn darparu’r acwstig delfrydol gan ychwanegu at y cyffro o brofi pêl-droed o gynghrair orau’r byd.

Ar ôl y Gêm

Os ydych yn dathlu neu’n cydymdeimlo ar ôl y gêm, bydd noson o adloniant a bwyd hyfryd yn siŵr o godi’ch ysbryd ymhellach.  Mwynhewch bryd o fwyd yn un o’n dewis o fwytai, caffis a bariau y gellir dod o hyd iddynt yng nghanol y ddinas, y Mwmbwls neu ar benrhyn Gŵyr. <LINK>Edrychwch ar ein rhestr gynhwysfawr o leoliadau bwyd a diod i godi awch arnoch.<LINK>
Mwynhewch noson o gwsg tawel – mae gennym westai gwely a brecwast, hunanarlwyo cyfforddus a gwestai moethus i chi ymlacio ynddynt.  O’r Premier Inn, sy’n ddelfrydol ar gyfer penwythnos munud olaf, i Westy Bach Beachcomber ar y Bae, neu os ydych am fwynhau ychydig o foethusrwydd, beth am gadw ystafell yng Ngwesty Morgan’s, munud o hwb bywyd nos y ddinas.

Edrychwch ar ein rhestr Lle i Aros ar gyfer rhestr gynhwysfawr o ddarparwyr llety yng Nghanol y Ddinas, y Mwmbwls a Gŵyr.

Diwrnod 2 (Gêm o ddwy hanner)

Ar ôl cyffro gêm y diwrnod blaenorol, mwynhewch gysgu’n hwyr. Ewch am dro ar hyd y prom i’r Mwmbwls a mwynhau byrbryd canol bore yn Verdi’s, Caffi a Pharlwr Hufen Iâ a reolir gan deulu sydd ag enw da am flas Eidalaidd go iawn. Rydym yn argymell eu teisennau a’u cappuccino caramel fel cyfeiliant perffaith i’r papurau dydd Sul.  Cyfle i ymlacio, dadflino a mwynhau’r olygfa o ben gorllewinol Bae Abertawe.

Prynhawn

Wedi ymlacio a dadflino? Mae’n amser archwilio eto.  Dewiswch o un o’n nifer o draethau darluniadwy. Rydym wedi eich helpu i wneud dewis anodd yn ein blog 7 Niwrnod, 7 Traeth.  Ond, os taw un Bae yn unig y gallwch fynd iddo, yna rydym yn argymell gyrru trwy benrhyn Gŵyr i Ben Pyrod a thraeth arobryn Bae Rhosili i gael golygfeydd a fydd yn ddigon i gipio’ch anadl.  Ewch am dro ar hyd tywod aur y Bae ac anadlu Awyr Ffres Môr yr Iwerydd.

Rhossili Bay Panoramic View

Gyda’r Hwyr (Amser ychwanegol)

Ar ôl cerdded, mae ychydig o amser i fwynhau pryd o fwyd haeddiannol yn un o’r nifer o fwytai ym Mhenrhyn Gŵyr (https://www.dewchifaeabertawe.com/listings/food-drink/gower/).

Os bydd eich tîm yn ennill 3 phwynt neu beidio, bydd eich penwythnos yn teimlo fel buddugoliaeth.

Byddem yn dwlu clywed amdano; beth oedd y peth gorau am eich 48 awr ym Mae Abertawe (rydym yn sôn am ddadansoddiad o’r penwythnos nid y gêm!).  Rhannwch gyda ni yn dewchifaeabertawe.com #PenwythnosGwych #EiliadauBaeAbertawe