fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Canmoliaeth Trundle o Fae Abertawe Mewn Cynhadledd Dwristiaeth


C 3rd October 2014

Mae harddwch Bae Abertawe’n ffactor pwysig wrth ddenu’r pêl-droedwyr gorau i’r ddinas, yn ôl Lee Trundle.

Roedd cyn-streiciwr yr Elyrch, llysgennad presennol y clwb, yn siarad mewn cynhadledd dwristiaeth fawr yn Neuadd y Ddinas.

Dywedodd Trundle, sydd hefyd yn berchen ar ddau far yng nghanol y ddinas, ei fod e’n hoff iawn o’r Mwmbwls a Gŵyr ac yn aml dim ond ar ôl treulio amser i ffwrdd o Fae Abertawe maen nhw’n sylweddoli mor fendigedig ydyw.

Ymunodd dros 90 o bobl o ugeiniau o fusnesau twristiaeth â seren yr Elyrch yn y gynhadledd flynyddol. Roedd Cyngor Abertawe gerllaw i roi gwybod am ymgyrch farchnata lwyddiannus dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi manteisio i’r eithaf ar harddwch Bae Abertawe a dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas.

Hefyd, arddangoswyd gwefan swyddogol newydd cyrchfan Bae Abertawe yn y gynhadledd ac amlinellodd staff o dîm twristiaeth yr awdurdod becyn partneriaid marchnata ar gyfer 2015. Rhai o fanteision dod yn bartner marchnata yw cael tudalen ar wefan swyddogol y cyrchfan, cynnal ymweliadau gan newyddiadurwyr ac amrywiaeth o weithgarwch hyrwyddo arall. Hefyd, gall partneriaid marchnata gael eu cynnwys ar dudalen hafan gwefan swyddogol y cyrchfan neu gael y cyfle i noddi e-byst a anfonir at filoedd o ymwelwyr posibl.

Mae nifer y bobl sydd wedi mynd i wefan swyddogol y cyrchfan wedi codi 137% ers 2010.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’n wych clywed Lee Trundle yn dweud mor bwysig y mae harddwch Bae Abertawe wrth ddenu’r chwaraewyr gorau i’r Elyrch yn yr Uwch-gynghrair, ond dyw e ddim yn syndod. Mae’n hawdd cymryd Bae Abertawe’n ganiataol pan rydych chi’n dod o’r ardal, ond mae angen i bawb gofio mor lwcus rydyn ni bod gennym arfordir mor drawiadol ac Ardal gyntaf y byd o Harddwch Naturiol Eithriadol mor agos.

“Mae’r nifer mawr a ddaeth i’r gynhadledd dwristiaeth flynyddol yn dweud cyfrolau am mor agos mae’r tîm twristiaeth yn gweithio gyda’r sector twristiaeth ar draws Bae Abertawe i barhau i wella’r profiad i ymwelwyr ar adeg pan fo twristiaeth eisoes yn werth dros £330 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn.

“Rydyn ni eisoes wedi gweithio gyda’n busnesau twristiaeth i ddatblygu cynllun rheoli cyrchfan sy’n amlygu meysydd i’w gwella ac yn monitro cynnydd ac roedd y rhan fwyaf o fusnesau yn y gynhadledd yn crybwyll yr un busnes neu fwy na’r un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn eithriadol o galonogol ond byddwn yn parhau i wneud y cyfan yn ein gallu i roi hwb i dwristiaeth oherwydd ei fod yn ysgogwr allweddol o’n heconomi ac yn declyn adfywio pwysig.”

Hefyd, cafodd y busnesau twristiaeth a gynrychiolwyd yn y gynhadledd daith dywys o Neuadd Brangwyn sydd newydd gael ei hailwampio. Bydd Cyngor Abertawe’n defnyddio’r neuadd ar gyfer mwy na chyngherddau’n unig yn y dyfodol. Bydd yr awdurdod yn llogi’r atyniad fel lle ar gyfer popeth o briodasau a ffeiriau priodasau i gynadleddau, seminarau, seremonïau gwobrau, partïon cinio a digwyddiadau â thema.