fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Beili newydd yn rhoi bywyd newydd i gastell hynafol


C 16th December 2013

Gallai swn cleddyfau a chrefftwyr prysur helpu i roi bywyd newydd i gastell hanesyddol Abertawe’n fuan.

SwCastle2CCSpCW_1

Swansea Castle

Gallai digwyddiadau ail-greu brwydrau a marchnadoedd awyr agored fod ymysg y digwyddiadau a gynhelir yn atyniad canol y ddinas nawr bod y beili hynafol wedi’i adnewyddu ar gyfer yr 21ain ganrif.

 

Mae gwaith i’r beili, sy’n dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd wedi cynnwys gosod gwair a charreg pennwn newydd fel y gall gynnal gweithgareddau a bod yn lle cyfarfod am fisoedd a blynyddoedd i ddod. Gosodwyd pum sedd newydd hefyd.

Goruchwyliwyd y prosiect gan Gyngor Abertawe ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Twristiaeth Dreftadaeth Cadw.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae’r prosiect wedi gwella golwg a hygyrchedd y castell yn yr ardal o’i gwmpas. Dyma ddechrau cynllun i sicrhau bod y tirnod yn nodwedd o fywyd pob dydd yn Abertawe unwaith eto.

“Mae twristiaeth dreftadaeth yn bwysig ac yn boblogaidd iawn y dyddiau hyn, a dyma pam ein bod am sefydlu grwp Cyfeillion Castell Abertawe i dywys pobl o amgylch yr atyniad am flynyddoedd i ddod. Caiff paneli gwybodaeth hefyd eu hychwanegu i helpu i hysbysu trigolion ac ymwelwyr am hanes diddorol y castell a’r rôl allweddol oedd ganddo unwaith ym mywyd Abertawe.

“Nid oedd y blitz tair noson ym 1941 hyd yn oed wedi dinistrio’n castell hanesyddol. Mae gennym ddyletswydd i’w gynnal a’i gadw i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”

Meddai John Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon, “Mae gan atyniadau hanesyddol effaith sylweddol ar dwristiaeth yng Nghymru. Ymweld â chastell neu atyniad hanesyddol oedd y rheswm penodol a nodwyd fwyaf dros ymweld â Chymru ymhlith ymwelwyr tramor mewn arolwg diweddar gan Groeso Cymru, gyda 61% o’r rhai a gwestiynwyd yn nodi mai hwn oedd y rheswm dros eu hymweliad.

“Felly mae’n bwysig bod ymwelwyr â’r safleoedd yn cael profiad cadarnhaol, yn ogystal â chyfle i ddysgu am dreftadaeth Cymru. Nid oes ffordd well o wneud hyn na dod â’r castell yn fyw gyda gwedd newydd a digwyddiadau bywiog.”

Yng nghamau blaenorol y gwaith yn 2011, gwnaed y lloriau uchaf, yr ystafelloedd cromennog ac adeilad y twr yn hygyrch. Trowyd adeilad y twr yn garchar dyledwyr ar ddiwedd y 18fed ganrif i bobl nad oedd yn gallu talu eu dyledion.

Mae’r holl ddiwrnodau agored dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn, felly rydym yn disgwyl am risiau dros dro er mwyn i fwy o bobl allu darganfod y castell.

Sefydlwyd Castell Abertawe tua 1106 gan Henry de Beaumont a dderbyniodd yn ddiweddarach Arglwyddiaeth Gwyr gan y Brenin Harri I. Yn wreiddiol, dim ond gwrthgloddiau ac amddiffynfeydd pren ydoedd. Mae hanes Castell Abertawe’n cynnwys stori’r rhyfelwr canoloesol o Gymru, William Cragh, a adwaenid hefyd fel William the Scabby, a oedd, yn ôl y stori, wedi cael ei atgyfodi’n wyrthiol ar ôl cael ei ddienyddio o fewn golwg y castell ym 1290 am ladd 13 o ddynion.