fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Bydd Bae Fest yn enghraifft o ragoriaeth werdd


C 27th September 2013

Caiff olew coginio wedi’i ailgylchu ei ddefnyddio i bweru generaduron trydan mewn gwyl fawr yn Abertawe’r penwythnos nesaf

BaeFest-swanseaBay-BC_1

Bae Fest 2013

Dyma un o’r ffyrdd y mae Cyngor Abertawe’n ceisio gwneud Bae Fest eleni mor ystyriol o’r amgylchedd a mor gynaliadwy â phosib.

 

Mae Bae Fest, a gynhelir ar y traeth gyferbyn â San Helen ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi, yn un o’r digwyddiadau am ddim mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, sesiynau rhoi cynnig ar chwaraeon, arddangosiadau coginio, arddangosfeydd crefftau traddodiadol a llawer o adloniant arall.

Hefyd gofynnir i’r sefydliadau sy’n cymryd rhan ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd trwy ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu’n unig. Mae’r digwyddiad yn ceisio lleihau swm y deunyddiau hyrwyddiadol a ddefnyddir hefyd, gan gynnwys balwnau sydd weithiau’n cyrraedd y môr lle gallant achosi niwed sylweddol i fywyd gwyllt.

Meddai’r Cynghorydd Sybil Crouch, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gynaladwyedd, “Wrth i ni barhau i ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd ym mhob peth rydym yn ei wneud, mae digwyddiadau fel hyn yn enghraifft dda o le gallwn arwain y ffordd a gofyn i’n partneriaid ymuno â ni.

“Nid yw ailgylchu’n gynaliadwy a lleihau gwastraff mewn digwyddiadau’n dda i’r blaned yn unig – mae hefyd yn gwneud synnwyr o ystyried yr adnoddau cyfyngedig sydd gennym.”

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Ni fydd unrhyw amheuaeth gan ymwelwyr â Bae Fest eleni am ffocws y digwyddiad ar yr amgylchedd oherwydd ein bod yn dynodi pabell i’r amgylchedd naturiol, a bydd grwpiau amgylcheddol lleol a chenedlaethol yn ymuno â’r hwyl addysgol gyda stondinau rhyngweithiol.

“Ond bydd llawer o hwyl arall ar gael hefyd ar gyfer pob oedran a diddordeb. Bydd y cyfuniad hwn yn arwain at un o’r digwyddiadau am ddim gorau a gwyrddaf o’i fath yn y wlad.”

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr â’r digwyddiad ddal chwilod du, darganfod dirgelion hanesyddol Castell Ystumllwynarth a dysgu sut i dyfu eu bwyd eu hunain. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys sesiynau caiacio/padlo bwrdd ar eich traed, beicio a straeon sy’n seiliedig ar gasgliad helaeth Amgueddfa Abertawe.

Bydd lle parcio ar gael ar faes y Rec ar gyfer penwythnos y digwyddiad.

Ewch i www.gwylbaeabertawe.co.uk/baefest i gael mwy o wybodaeth am yr wyl.