fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Clasuron teledu ac awduron gwych i fod yn rhan o wyl Dylan Thomas


C 10th September 2013

Bydd nodweddion rhai o’r rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd o’r degawd diwethaf a’r tu hwnt yn rhan o wyl Dylan Thomas eleni.

EX_10_1

Dylan Thomas

Bydd diwrnod Doctor Who a noson sy’n seiliedig ar y ddrama o Ddenmarc ‘The Killing’ ymysg yr uchafbwyntiau.

 

Cynhelir yr wyl, bellach yn ei 16eg flwyddyn, yng Nghanolfan Dylan Thomas yn yr Ardal Forol rhwng 26 Hydref a 9 Tachwedd.

Bydd y diwrnod Doctor Who, a drefnir i nodi hanner canmlwyddiant y rhaglen ffug-wyddonol boblogaidd, yn cynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, gwesteion arbennig, gweithdai a Daleks. Bydd noson sy’n seiliedig ar ‘The Killing’ yn cynnwys dau o’r enwau mwyaf sy’n ysgrifennu amdani: David Hewson, nofelydd trosedd a dirgelwch; ac Emma Kennedy, actor, awdur a chyflwynwr teledu, sef awdur ‘The Killing Handbook’.

Bydd Roger McGough, bardd, darlledwr ac awdur i blant, yn lansio’r wyl gyda darlleniadau o’i gasgliad newydd o farddoniaeth. Bydd Gillian Clarke, bardd o Gymru, hefyd gerllaw gyda chomisiwn canmlwyddiant newydd.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Gwyl Dylan Thomas yn dathlu celfyddydau ac adloniant, gan gynnwys cerddoriaeth, theatr, celf a rhyddiaith. Rydym yn llawn cyffro i groesawu ein hamrywiaeth sylweddol o westeion talentog i wyl 2013.

“Rydym yn disgwyl denu ymwelwyr o bob rhan o Brydain ac mor bell ag UDA, Siapan ac Awstralia.

“Bydd gwyl y flwyddyn hon yn arbennig o gyffrous gyda chanmlwyddiant Dylan Thomas ar y gweill yn 2014.”

Bydd newyddiadurwyr pêl-droed o The Guardian yn recordio’u podlediad Pêl-droed Wythnosol a fydd yn edrych ar gêm ddarbi de Cymru rhwng Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd, a bydd yr wyl hefyd yn mynd ar daith gyda noson o ddarlleniadau o waith Dylan yn ei dafarn leol, Uplands Tavern. Bydd Cwmni Theatr Fluellen gerllaw gyda rhagolwg a thrafodaeth o’i gynhyrchiad newydd o ‘Rebecca’s Daughters’ gan Dylan.

Bydd yr wyl a Bluestocking Lounge hefyd yn cyfuno i gyflwyno ‘Wordy Shapes of Women’ – noson lle bydd bwrlésg yn gwrthdaro â barddoniaeth Dylan Thomas. Cyn hynny, bydd gweithdy ysgrifennu creadigol am ddim dan arweiniad Primrose Proper, perfformiwr a bardd, ar sut gall celf a chreadigrwydd bwrlésg agor llwybr artistig newydd.

Ewch i www.dylanthomas.com am fwy o wybodaeth.