fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Lansio ymgyrch y Galon Fawr i hybu canol y ddinas


C 22nd August 2013

Caiff ymgyrch newydd ei lansio i helpu i ddenu mwy o siopwyr i ganol dinas Abertawe.

BigHeart_1

Big Heart of Swansea

Caiff yr ymgyrch, o’r enw ‘Calon Fawr Abertawe’, ei lansio gyda chyfres o ddigwyddiadau ar Stryd Rhydychen, Stryd Portland a Stryd yr Undeb ar ddydd Iau (22 Awst) o 10am i 2pm.

 

Bydd y digwyddiadau’n cynnwys hwyl pêl-droed gydag un o gyn-sêr yr Elyrch, Lee Trundle, a murlun rhyngweithiol ar Stryd yr Undeb. Bydd artist lleol wrth law i baentio siapiau calon ar y murlun ac yna bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ysgrifennu’r hyn maent yn ei hoffi am ganol dinas Abertawe yn y siapiau.

Syniad Cyngor Abertawe a BID (Ardal Gwella Busnes) Abertawe yw’r ymgyrch newydd.

Caiff fersiwn newydd a gwell o Gerdyn Teyrngarwch Canol y Ddinas ei lansio hefyd yn y digwyddiad hwn. Gellir casglu’r cerdyn yn bersonol yn y busnesau sy’n cymryd rhan i helpu hybu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y ddinas a gwella masnach i siopau, bariau, bwytai a busnesau lleol eraill. Mae dros 100 o gynigion wedi’u cynnwys yn y cerdyn wedi’i ail-lansio, sydd bellach yn blastig.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae gan ganol dinas Abertawe lawer i’w gynnig. Yn ogystal â dewis gwych o fanwerthwyr nodedig y stryd fawr, mae hefyd yn cynnwys marchnad dan do orau’r wlad ac amrywiaeth cyfoethog o fasnachwyr annibynnol. Mae hyn yn helpu i amlygu unigrywiaeth Abertawe mewn cyfnod pan mae canol cynifer o ddinasoedd eraill yn edrych yn union yr un fath.

“Ond nid siopau’n unig sydd yma yng nghanol ein dinas ni. Mae hefyd raglen digwyddiadau ac adloniant fywiog o safon trwy gydol y flwyddyn sy’n ategu’r llu o fariau a bwytai o safon nid nepell o atyniadau fel Theatr y Grand, yr LC, yr Ardal Forol a’r glannau.

“Mae pobl Abertawe’n frwd iawn am eu dinas a’u timau chwaraeon, a nod yr ymgyrch hon yw cefnogi siopau a gwasanaethau lleol canol ein dinas yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn. Byddwn yn annog pobl i fod yr un mor frwd am yr ymgyrch hon hefyd gan fod canol y ddinas mor bwysig i’n lles economaidd.”

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe, “Rydym wedi creu brand newydd a chyffrous Calon Fawr Abertawe a’r ymgyrch farchnata rymus i annog hyd yn oed mwy o siopwyr ac ymwelwyr i roi cynnig ar y bwytai, y bariau, y clybiau nos, y siopau, y gwestai a’r gwasanaethau sydd ar gael yng nghanol y ddinas.

“Rydym wedi cydweithio â Chyngor Abertawe i lansio’r brand defnyddwyr grymus unigol newydd hwn fel bod gennym un neges ac un brand gyda’r nod o helpu i recriwtio mwy o siopwyr ac ymwelwyr i’r ardal.

“Yn sgîl ail-lansio’r cerdyn teyrngarwch, caiff busnesau ac ardaloedd eu hunain eu cynnwys yn y marchnata, yn seiliedig ar dueddiadau tymhorol. Bydd hyrwyddiadau megis siopa gyda’r hwyr, cynigion parcio, cynigion bysus a digwyddiadau i gyd yn rhan o’r ymgyrch.”

Ymhlith digwyddiadau eraill a gynhelir ddydd Iau mae sesiwn celf a chrefft Dewch i Drochi, paentio wynebau a darllediad awyr agored byw gan The Wave. Bydd llwyau serch ar ffurf calonnau a phice ar y maen wedi’u darparu gan Farchnad Abertawe, yn ogystal â phethau eraill am ddim, cerddoriaeth fyw a dawnsio stryd.

Hefyd gall ymwelwyr gofrestru ar y dydd i ennill Profiad VIP Abertawe gwerth dros £1,500, a fydd yn cynnwys cyfle i ennill gwyliau am ddau i Fenorca, gan gael llety gyda brecwast a phryd gyda’r hwyr mewn gwesty platinwm pedair seren Thomson.

Bydd mwy na 70,000 o gardiau teyrngarwch ar gael i breswylwyr ar draws Bae Abertawe ddydd Mercher trwy garedigrwydd papurau newydd y South Wales Evening Post, y Llanelli Star a’r Carmarthen Journal. Bydd cardiau hefyd yn cael eu dosbarthu yn y digwyddiad ar ddydd Iau a byddant ar gael yn Swyddfeydd Rheoli Canol y Ddinas ar Stryd Plymouth. Gall pobl hyd yn oed lawrlwytho’r cerdyn o App Mawr Lleol Abertawe. Dyma pam bydd BLA yr Estronwr – masgot lliwgar yr App Mawr Lleol – hefyd yn crwydro trwy ganol y ddinas ddydd Iau.

Ewch i www.calonfawrabertawe.co.uk am fwy o wybodaeth am ganol y ddinas ac i gofrestru am eich Cerdyn Teyrngarwch a’r cyfle i ennill gwyliau.