Bydd bord bêl-droed ddynol yn rhan o’r hwyl pan gynhelir parti lansio tymor yr Uwch-gynghrair yng nghanol y ddinas yr wythnos hon
Mae’r parti, a gynhelir ar Stryd Rhydychen ddydd Mercher (14 Awst) rhwng 10.30am a 2.30pm, yn helpu i nodi’r paratoi cyn gornest agoriadol yr Elyrch yn erbyn y mawrion, Manchester United, yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn.
Mae bord bêl-droed ddynol yn fersiwn enfawr o gêm bêl-droed ford sydd i’w gweld mewn tafarnau a chartrefi ledled y wlad, ond cewch chi’r cyfle i gymryd lle’r chwaraewyr plastig yn y tîm.
Cyngor Abertawe sy’n trefnu’r hwyl.
Mae pêl-droed rodeo, ymddangosiad gan Cyril yr Alarch a chystadleuaeth ciciau cosb gyda’r cyfle i ennill nwyddau’r Elyrch ymysg y gweithgareddau eraill.
Hefyd, mae cyfle i ennill dau docyn am y gwrthdaro yn erbyn Manchester United.
Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae dau nod i barti lansio tymor yr Uwch-gynghrair – nodi’r paratoi cyn dechrau’r tymor newydd a denu mwy o bobl i ganol ein dinas i roi hwb i’n masnachwyr.
“Mae partïon tebyg wedi’u cynnal bob haf ers yr haf roedd yr Elyrch ar fin dechrau ar eu hantur gyntaf yn yr Uwch-gynghrair, ac maent bob amser wedi bod yn hynod boblogaidd.
“Ond mae dechrau tymor yr Uwch-gynghrair yn arbennig o gyffrous oherwydd y tîm mae’r Elyrch yn dechrau’r tymor yn ei erbyn. Hon fydd gêm gynghrair gyntaf David Moyes fel rheolwr Manchester United, felly bydd llygaid y byd ar Stadiwm Liberty a Bae Abertawe.”
Bydd parti canol y ddinas hefyd yn cynnwys paentio wynebau, modelu balwnau a chelf a chrefft.
Mae’r Elyrch yn teithio i White Hart Lane i wynebu Spurs ddydd Sul 25 Awst 25 yn eu gêm nesaf yn yr Uwch-gynghrair ar ôl Manchester United.
Ewch i http://www.swanseacitycentre.com i gael mwy o wybodaeth am ganol dinas Abertawe neu ffoniwch 01792 476370