Mae tri egin fardd yn Abertawe wedi profi eu doniau barddoni
Mae tri egin fardd yn Abertawe wedi profi eu doniau barddoni.
Dewisodd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, waith gan Rebecca Lowe, Linda Dobbs a Steve Grey i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth ysgrifennu soned a drefnwyd gan Gyngor Abertawe.
Daeth Rebecca, 40 oed o Uplands, yn gyntaf gyda ‘Swansea Summer’; daeth Linda, 65 oed o Porth Einon, yn ail gyda ‘Culver Hole’; a Steve sy’n 61 oed o Lansamlet, yn drydydd gydag ‘Acrosonnet’
Mae gan soned draddodiadol 14 llinell gyda chwpled odledig i gloi – dwy linell o’r un hyd sy’n odli ac sy’n cyfleu un syniad. Mae hefyd yn cynnwys patrwm odli ac mae deg sillaf i bob llinell.
Cyflwynwyd mwy na 120 o sonedau ar draws y ddinas i Wasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe.
Meddai Gillian, “Roeddwn i wedi mwynhau darllen y sonedau. Wrth ddewis tri enillydd, roedd rhaid i mi gofio bod gan sonedau reolau, ac fe’u cymhwysais yn llym.
“Roeddwn i’n gwrando am gerddoriaeth, llais cyfoes a dewis trawiadol o eiriau.
“Mae’r tri enillydd yn defnyddio geiriau a chystrawen Saesneg cyfoes gan osgoi iaith hynafol. Mae hyn yn hanfodol os yw’r soned i oroesi’n ffurf fyw.
“Yn y diwedd, fy enillydd i yw ‘Swansea Summer’, sef pwnc cyfoes iawn: Abertawe yn ystod haf poeth. Mae’r bardd yn defnyddio Saesneg ddychmygus ac anturus sy’n sicr wedi’i dylanwadu gan gyflythrennu’r Gymraeg i gyfleu melyster myglyd yr haf a’r atgof hiraethus am forwyr marw ‘ugly, lovely town’ Dylan Thomas”
Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae gennym hanes y gallwn ymfalchïo ynddo fel dinas wrth i ni gynhyrchu doniau llenyddol byd-enwog fel Dylan Thomas a Russell T Davies. Mae safon y cynigion yn y gystadleuaeth hon yn dangos bod crefft y gair ysgrifenedig yn dal yn fyw iawn ar draws Abertawe. Mae cystadlaethau fel hyn yn bwysig am eu bod yn annog pobl i fod yn greadigol ar adeg pan rydym yn gwneud ein gorau glas i godi proffil Abertawe fel dinas diwylliant o fri.
Mae Rebecca wedi cael basged nwyddau ysgrifenwyr wrth ennill y gystadleuaeth.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/libraries i gael mwy o wybodaeth am Wasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe neu ffoniwch 01792 636464.